Cynghrair Europa: FK Partizan Belgrade 3-0 Cei Connah

  • Cyhoeddwyd
Cei ConnahFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrch Cei Connah yng nghystadlaethau Ewrop ar ben wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Partizan Belgrade yn Serbia nos Iau.

Roedd y Nomadiaid wedi colli'r cymal cyntaf yn yr ail rownd ragbrofol yn Y Rhyl yr wythnos ddiwethaf o 1-0, sy'n golygu mai'r sgôr dros y ddau gymal oedd 4-0.

Roedd hi'n berfformiad da gan yr ymwelwyr yn yr hanner cyntaf, gan sicrhau fod y ddau dîm yn parhau'n gyfartal ar yr egwyl.

Ond cafodd Cei Connah ergyd i'w gobeithion ar ddechrau'r ail hanner, gyda chyn-chwaraewr Manchester United, Zoran Tošić yn sgorio wedi gwrthymosodiad gwych gan y tîm cartref.

Daeth ail gôl i Partizan wedi 69 munud gan Ognjen Ožegović, cyn i'r seren 16 oed, Filip Stevanović ychwanegu trydedd ychydig funudau'n ddiweddarach.

Er y canlyniad roedd hi'n ymgyrch i'w chofio i Gei Connah, wedi iddyn nhw drechu Kilmarnock o'r Alban yn y rownd ragbrofol gyntaf.