Merched yn dilyn eu mam fel llawforynion yn yr Orsedd

  • Cyhoeddwyd
Sioned Hedd, Nansi a Nel
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sioned Hedd, fe fydd yna ddeigryn yn ei llygaid pan fydd hi'n gwylio Nansi a Nel yn yr Orsedd yr wythnos hon

Bydd efeilliaid o Lansannan yn cymryd rhan yn seremonïau'r Orsedd yr wythnos hon - 30 mlynedd wedi i'w mam gyflawni'r un gorchwyl.

Cafodd Nansi a Nel eu dewis yn llawforynion yn dilyn proses ymgeisio'r llynedd.

Roedd eu mam, Sioned Hedd, yn un o ddwy lawforwyn i'r orsedd yn ystod Prifwyl Llanrwst yn 1989.

"O'dd hi'n Steddfod fythgofiadwy," meddai Sioned Hedd, sydd yn byw yn Llansannan gyda'i phedwar o blant.

"Dwi'n cofio ni'n teithio dros bont Llanrwst ar 'double deckers' a oedd yn cario'r orsedd achos o'dd 'na 'bach o law, a dwi'n cofio yn hogan fach yn edrych lawr o top y double decker i lawr ar yr afon a theimlo ofn mawr.

"Ond wedyn o'dd y wledd a'r lliwia', ac mae'r atgofion yn fyw hyd heddiw."

Sioned HeddFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Hedd (chwith) yn 1989...

Nansi a Nel yn Seremoni cyhoeddiFfynhonnell y llun, Sioned Hedd
Disgrifiad o’r llun,

...a'i merched, Nansi a Nel 30 mlynedd yn ddiweddarach

Bydd Nansi a Nel yn cymryd rhan yn seremonïau'r Orsedd ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener.

"Mae'n dda iawn bo' ni wedi cael ein dewis," meddai Nansi, a fydd gyda'i hefaill Nel yn gwisgo ffrog sidan wen wrth gyflawni eu gorchwylion.

Meddai Sioned: "'Da ni 'di bod yn ffodus iawn achos mae Anti Diane - Diane Roberts o Tan-y-gorwel, Llangernyw - a oedd wedi gwneud fy ffrog i, wedi cynllunio a gwneud ffrogiau'r genod eleni hefyd.

"Mae 'di bod yn lot o waith iddi, a lot o stress, ond ma'r ffrogia' gefn llwyfan rwan, ac ma nhw'n edrych yn hynod o swel ynddyn nhw."

Mae Sioned yn cydnabod y bydd yna ambell o ddeigryn wrth weld ei merched ar y prif lwyfan yr wythnos hon.

"Be sy'n golygu gymaint i fi ydy bod y profiad wedi bod mor ddylanwadol arna i, a dwi'n gwybod y byddan nhw'n cael yr un wefr drwy fod yn llawforynion hefyd."

Wrth baratoi ar gyfer wythnos brysur dywedodd Nansi a Nel eu bod nhw'n edrych ymlaen, a'u bod hefyd wedi cael cyngor gan Mam.

"Cofiwch i wenu, a pheidio â disgyn ar ben y goron!"

Straeon perthnasol