Leeds 0-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Daeth Wayne Routledge ymlaen fel eilydd
Mae Abertawe wedi disodli Leeds oddi ar frig y bencampwriaeth ar ol buddugoliaeth ddramatig yn Elland Road.
Sgoriodd yr eilydd Wayne Routledge unig gôl y gêm ar ol 90 munud.
Roedd cyfleoedd i Abertawe yn brin - ond fe gymerodd Routledge ei gyfle.
Fe wastraffodd Leeds sawl cyfle i sgorio ar ol rheoli rhannau helaeth o'r gêm.
Mae gan Abertawe 16 pwynt ar ol ennill eu pumed gem o'r tymor, ac mae Leeds wedi llithro i'r trydydd safle.

Mae'n fuddugoliaeth enwog i'r Elyrch - dim ond eu hail fuddugoliaeth erioed yn Leeds.