Forest Green 0-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Joe Wallacott yn cerdded o'r maes yn yr hanner cyntaf
Mae Casnewydd wedi dringo i'r ail safle yn y tabl ar ôl manteisio ar berfformiad trychinebus gan gôl-gweidwad Forest Green.
Fe wnaeth Joe Wallacott golli rheolaeth o'r bel yn ei gwrt cosbi, gan adael i Padraig Amond sgorio ar ol pedwar munud.
Yna ar ôl hanner awr fe gafodd Wallacott gerdyn coch arôl llorio Tristan Abrahams.
Sgoriodd Ryan Haynes ail gôl Casnewydd yn hwyr yn yr ail hanner.