Cyhuddo dyn wedi marwolaeth dynes mewn parc gwyliau
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiad o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dynes mewn parc gwyliau yn Sir y Fflint.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Claire Wright, 38, o Sir Gorllewin Efrog ym mharc gwyliau Heron's Lake Retreat yng Nghaerwys ar 16 Gorffennaf 2018.
Ar y pryd, dywedodd yr heddlu fod dyn wedi cael ei holi gan swyddogion am ei marwolaeth a'i fod wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Fore dydd Llun, fe wnaeth Warren Martin Coulton, 51, o Buck Lane, Baildon, ger Bradford, ymddangos yn Llys Ynadon yr Wyddgrug.
Gwrandawiad
Cafodd yr achos yn ei erbyn ei anfon i Lys y Goron yr Wyddgrug ac fe fydd gwrandawiad pellach yno ar 21 Chwefror. Cafodd Mr Coulton ei ryddhau ar fechnïaeth gyda'r amod nad oedd i gysylltu gyda nifer o lygaid dystion.
Y cyhuddiad yn ei erbyn yw ei fod wedi lladd Claire Wright yn anghyfreithlon. Dywedodd John Wylde ar ran yr erlyniad fod rheolwr y parc gwyliau wedi galw'r heddlu ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn un o gabanau'r parc.
Mae Mr Coulton hefyd yn wynebu cyhuddiad o ymddygiad rheolaethol neu gymhellol rhwng Rhagfyr 2015 a Gorffennaf 2018 tuag at Claire Wright yn Bradford oedd yn cynnwys rheolaeth ariannol a gweithredoedd rhywiol.
Mae hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod ar ddynes arall gan achosi niwed corfforol iddi rhwng 2010 a 2013.
Ni wnaeth y bargyfreithiwr ar ei ran wrthwynebu amodau'r fechnïaeth.