Gwrthdrawiad A458: Gyrrwr yn ddifrifol wael

  • Cyhoeddwyd
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A458 yn Buttington ger y TrallwngFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A458 yn Buttington ger y Trallwng

Mae gyrrwr yn ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A458 yn ardal Y Trallwng nos Wener 24 Ionawr.

Roedd Citroen Saxo Glas yn teithio o'r Trallwng i gyfeiriad Amwythig pan darodd yn erbyn Fiat 500 coch tua 11.20pm.

Fe darodd y Fiat yn erbyn polyn telegraff gan olygu bod rhai cartrefi cyfagos heb drydan am gyfnod.

Ychydig yn ddiweddarach fe darodd Renault Clio arian oedd yn teithio o gyfeiriad Y Trallwng yn erbyn blaen y Saxo.

Mae gyrrwr y Saxo wedi cael anafiadau difrifol.

Mae gyrrwr a theithwyr oedd yn y Fiat gefyd yn cael triniaeth am anafiadau yn yr ysbyty.

Roedd yr A458 rhwng cylchdro Buttington a Halfway House ar gau tan yn hwyr fore Sadwrn 25 Ionawr.

Mae'r polyn telegraff bellach wedi ei drwsio.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn awyddus am unrhyw wybodaeth am y digwyddiad.