Arwerthiant yr Adar Gleision yn codi £28,000
- Cyhoeddwyd

Nwyddau prin: Rhaglen a phâr o docynnau o rownd derfynol Cwpan yr FA 1927 pan gipiodd Caerdydd y tlws am yr unig dro yn eu hanes
Cafodd pob eitem yn gysylltiedig gyda chlwb pêl-droed Caerdydd ei werthu mewn arwerthiant yn Suffolk fore Sadwrn 25 Ionawr.
Roedd nifer o'r deugain eitem yn ymwneud a champ hanesyddol yr Adar Gleision yn ennill Cwpan yr FA yn 1927. Caerdydd ydy'r unig glwb y tu hwnt i Loegr i gipio'r tlws.
Ymhlith yr eitemau roedd yna docynnau, rhaglenni a bwydlenni ciniawau i ddathlu'r fuddugoliaeth wedi eu harwyddo gan y garfan. Cafodd cyfanswm o £28,147 ei wario yn yr arwerthiant.
Yr eitem fwyaf costus i fynd dan y morthwyl oedd casgliad o ddogfennau yn cynnwys nodiadau o gyfarfodydd y cyfarwyddwr a chofnodion tâl y chwaraewyr rhwng 1915 ac 1972.
Cafodd y casgliad yma ei werthu am £4,000.
Cadarnhaodd Lockdales, yr arwerthwyr, mai y clwb brynodd y rhan fwyaf o'r eitemau aeth dan y morthwyl.