Mae Gwen yn byw gyda'r cyflwr diabulimia ers 2015

Mae dynes o Ynys Môn wedi disgrifio'r effaith y mae anhwylder bwyta sy'n effeithio ar rai pobl gyda diabetes math un wedi ei gael ar ei bywyd.

Mae Gwen Edwards, 22, yn byw gyda'r cyflwr diabwlimia - anhwylder sy'n effeithio ar rai pobl sydd yn ddibynnol ar inswlin ar gyfer diabetes math un.

Mae diabwlimia yn disgrifio cyflwr pan fo defnyddwyr yn cwtogi ar chwistrelliadau inswlin er mwyn colli pwysau.

Mae'r enw 'diabwlimia' yn gyfuniad o ddiabetes a'r anhwylder bwyta bwlimia ac fe all effeithio ar ddynion a menywod.