Rhybudd i beidio cael llawdriniaeth gosmetig dramor
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o dde Cymru wedi rhybuddio eraill am y peryglon o fynd am lawdriniaeth gosmetig dramor.
Cafodd Kimberley Saad, 27 o Gwm Ogwr, ddwy lawdriniaeth yn Nhwrci yn 2019 ar gost o £6,000.
Roedd hi'n anhapus gyda chanlyniadau'r un cyntaf, ac fe gafodd haint wedi'r ail.
Cafodd ei chreithio ac mae bellach angen llawdriniaeth yn y DU i wneud yn iawn am y difrod, fydd yn costio tua £10,000.
"Dwi wedi bod yn dew drwy gydol fy mywyd," meddai Ms Saad.
"Ro'n i bron yn 23 stôn, felly dwy flynedd yn ôl nes i benderfynu cael band gastrig."
Er iddi golli naw stôn yn dilyn y llawdriniaeth, roedd ganddi ormodaeth croen, gan achosi iddi bryderu am y ffordd roedd hi'n edrych.

Dywedodd Ms Saad ei bod hi'n pwyso 23 stôn ar ei thrymaf
Hedfanodd i Dwrci ym mis Mawrth y llynedd i gael gwaith ar ei bron a'i bol, oherwydd ei fod yn "ffracsiwn pris" y byddai wedi'i dalu yn y DU, gan ddefnyddio'r cwmni Comfortzone.
"Dim ond ar fore'r llawdriniaeth nes i gwrdd â'r llawfeddyg... a ches i ddim fy mhwyso hyd yn oed cyn yr anesthetig."
Ni aeth y llawdriniaeth gyntaf fel yr oedd hi wedi gobeithio.
Cynigiodd y cwmni lawdriniaeth arall iddi er mwyn unioni pethau, ond unwaith eto aeth pethau ddim yn ôl y disgwyl.
"Mae gen i broblemau parhaus," meddai.
"Rydw i wedi bod i'r adran achosion brys dair gwaith ers i mi fod yn ôl yn y DU ac wedi cael gwrthfiotigau wedi'u diferu i fy mraich."
Mae Ms Saad yn talu'n breifat am y driniaeth ddiweddaraf yn hytrach na defnyddio'r GIG.
Ond mae pryderon ynghylch faint mae cywiro llawdriniaethau o dramor yn costio'r system iechyd yn y wlad yma.

Cafodd Ms Saad driniaeth ychwanegol ar ôl dychwelyd adref yn dilyn haint
Mae Dean Boyce - cadeirydd addysg a hyfforddiant Cymdeithas Llawfeddygon Adluniol ac Esthetig Plastig Prydain (BAPRAS) - yn llawfeddyg yn Ysbyty Morriston yn Abertawe.
"Meddyliwch yn hir ac yn galed cyn mynd dramor," meddai wrth BBC Cymru.
"Mae'n rhatach mewn rhai gwledydd, ond mae'n rhaid i chi edrych ar y darlun ehangach.
"Mae eich corff yn mynd trwy hyn ac mae angen i chi gael y driniaeth orau a mwyaf diogel posib."
Mae BBC Cymru wedi gwneud ymdrechion dro ar ôl tro i gysylltu â Comfortzone, ond nid yw wedi derbyn unrhyw ymateb eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2019

- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2015

- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2015
