Arolwg yn awgrymu pryder am ddyfodol trefi a dinasoedd
- Cyhoeddwyd

Mae miliynau o bunnau'n cael eu gwario ar dre'r Rhyl ar hyn o bryd er mwyn gwneud y dref yn atyniadol i ymwelwyr
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu bod eu tref neu ddinas agosaf wedi dirywio yn ystod y degawd diwethaf - dyna awgrym arolwg barn ar gyfer BBC Cymru.
Dywedodd dros hanner (54%) o'r rhai a gafodd eu holi bod eu canolfan agosaf yn "lle gwaeth i siopa, gweithio ac ymweld".
Doedd 25% ddim wedi gweld unrhyw newid ac roedd 17% yn credu bod canol eu tre neu eu dinas wedi gwella.
Mae'r arolwg barn blynyddol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi hefyd yn awgrymu bod canran helaeth (63%) o bobl yn credu bod mudwyr yn cael effaith bositif ar economi Prydain - 3% yn uwch na llynedd.
Hefyd nododd 58% - 2% yn fwy na llynedd - bod mudwyr o wledydd eraill yn "gyffredinol yn cyfoethogi" bywyd diwylliannol Prydain.
Wrth gael eu holi am siopa ar y we, dywedodd 69% eu bod yn siopa ar-lein unwaith y mis. Roedd 17% byth yn siopa ar y we ond dywedodd 1% eu bod yn siopa ar-lein bob dydd.
Roedd 55% yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau deddfu ym meysydd cyfiawnder troseddol, plismona a charchardai, gyda 39% yn credu mai llywodraeth y DU ddylai barhau i wneud hynny.

Yn gynharach eleni nodwyd mai stryd fawr Treorci oedd y gorau yng Nghymru
Mewn ateb i gwestiynau ar yr amgylchedd yn sgil trafodaethau ar newid hinsawdd, dywedodd 58% eu bod wedi newid eu patrwm byw adref ond nododd 20% arall nad oeddent wedi newid eu ffordd o fyw o gwbl.
Wrth gael eu holi am wyliau dywedodd 23% eu bod wedi newid eu harferion gryn dipyn tra bod 51% wedi nodi nad oeddent wedi gwneud unrhyw newid.
Dywedodd bron hanner (48%) yr atebwyr eu bod yn llai hyderus am economi Cymru nag yr oeddent 12 mis yn ôl. Dim ond 20% ddywedodd eu bod yn fwy hyderus.
Roedd y canrannau yr un fath wrth ateb cwestiwn am hyder yn economi Prydain.
Er hyn, mae'n ymddangos fod pobl bellach yn fwy cysurus am eu sefyllfa bersonol gyda phedwar o bob 10 yn dweud eu bod yn fwy hyderus eleni am sicrwydd swydd. Dim ond 20% ddywedodd eu bod yn llai hyderus.
Roedd 32% o'r oedolion a gymrodd rhan yn yr arolwg hefyd yn fwy hyderus am sefyllfa ariannol y cartref - dim ond 26% oedd yn llai hyderus.
Cafodd y gwaith ymchwil ei wneud gan ICM Unlimited ar gyfer BBC Cymru.
Fe holodd ICM Unlimited sampl o 1,000 o bobl oed 16+ ar draws Cymru ar y ffôn rhwng 4-22 Chwefror 2020. Mae ICM yn aelod o'r British Polling Council.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2020

- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020

- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2014
