Profiadau disgybl Blwyddyn 12 yn ystod y pandemig

Mae Luke, sy'n ddisgybl 12 yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd wedi rhannu rhai o'r anawsterau sy'n wynebu disgyblion ysgol wrth astudio.

Dywedodd fod yna broblemau ar brydiau wrth geisio cyfathrebu ar y we, ond eu bod mewn sefyllfa gwell na Blwyddyn 13 gan y bydd cyfle i fynd yn ôl i'r ysgol a chael blwyddyn arall o waith.