Uchafbwynt Huw Foulkes: Cofio canu gydag Edward H yn Steddfod Dinbych

Nid yw'r cynnwys yma ar gael.

Mae yna broblem

Eisteddfod Dinbych 2013 - ma' hon yn aros yn y cof fel un o'r goreuon. Awyrgylch braf a'r penwythnos ola' yn berl. Roedd 'na hŵ-ha ar y bore Gwener ac ofnau y byddai gig y maes yn amharu ar y cystadlu yn y pafiliwn. Edward H o'dd ar lwyfan y maes y noson honno a roedd Côrdydd hefyd yn cystadlu.

Er i'n perfformiad ni ar brydiau swnio fel mash-up o Pishyn a Rachmaninoff, wnaeth hynny ddim amharu ar un o fy hoff nosweithia' yn y Steddfod. Band gwych, miloedd o gyd-Gymry yn cymdeithasu a Chôrdydd yn ennill Côr yr Ŵyl. Atgofion melys iawn.