Tân 'dan reolaeth' ar safle ffatri beiriannau ceir Ford

  • Cyhoeddwyd
Tân ar safle ffatri Ford, Pen-y-bont ar OgwrFfynhonnell y llun, Cyfrif Twitter @SWPBridgend

Mae criwiau tân wedi cael eu galw i ddelio â thân ar safle ffatri beiriannau ceir yn ne Cymru.

Cafodd chwe chriw tân eu danfon nos Lun i safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys rhai o Gaerdydd a Phont-y-pŵl.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod hi'n ymddangos fod y fflamau mewn lle caeëdig ar y safle, yn hytrach nag yn y brif adeilad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ffatri tua 19:45 ac yn ôl Heddlu De Cymru am 20:20 roedd "y tân dan reolaeth".

Cafodd criwiau hefyd eu danfon o Ben-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Mynyddcynffig, Pencoed, Y Dafan Newydd, a'r Eglwys Newydd.

Bydd y ffatri'n cau yn yr hydref wedi 40 o flynyddoedd yn y dref gan ddiswyddo 1,700 o weithwyr.

Straeon perthnasol