Sgwrs a Chân: Lydia, Merch y Cwilt
- Cyhoeddwyd

Sgwrs a chân: Lydia, merch y cwilt
Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Os nad yw'r fideo yn chwarae ar eich dyfais cliciwch fan hyn.

Opera Un Ddynes gan Caryl Parry Jones, Non Parry a Geraint Cynan, gan gydweithio gydag Elen Phillips curadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gyda'r soprano amryddawn Rhian Lois yn serennu.
Prosiect mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yw hon, gan ddefnyddio archif i sbarduno thema a stori.
Bwriad y prosiect hwn, yw creu gwaith newydd operatig yn y Gymraeg, gan geisio datblygu cynulleidfa ar gyfer genre hwn wrth gomisiynu cerddor o genre wahanol, mwy poblogaidd i gyfansoddi. Blas o waith mewn datblygiad y cewch yma.
