Apêl am dystion wedi gwrthdrawiad ym Merthyr
- Cyhoeddwyd

Mae dynes yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei tharo gan gar ym Merthyr Tudful nos Sadwrn.
Mae ei hanafiadau yn cael eu disgrifio fel rhai a "all newid ei bywyd."
Dywed yr heddlu iddi fod mewn gwrthdrawiad gyda Vauxhall Corsa glas ar Ffordd Gellifaelog, Dowlais, tua 10:05.
Cafodd dyn 29 ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yfed neu gymryd cyffuriau. Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fod â chyffuriau yn ei feddiant.
Cafodd dyn 25 oed hefyd ei arestio a'i ryddhau yn ddiweddarach .
Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion i'r digwyddiad.