Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 10. Minneapolis

  • Cyhoeddwyd
Encore
Disgrifiad,

Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 10. Minneapolis

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Os nad yw'r fideo yn chwarae ar eich dyfais cliciwch fan hyn.

line

Yn ystod Mis Mawrth 2020, roedd Patrick ar daith efo Calan ar draws yr UDA. Wrth iddo fynd o Ddwyrain i Orllewin y wlad, a gweld effeithiau coronafeirws yn cropian tuag ato, fe ddaeth hi'n amlwg fod y daith yn mynd i orfod dod i ben.

Fel gymaint o weithiau o'r blaen, ffans anhygoel Calan wnaeth godi calon ac achub y sefyllfa. Erbyn iddynt gamu oddi ar yr awyren yn Heathrow, roedd y Crowdfunder, a sefydlwyd 10 awr ynghynt i'w helpu gyda chostau'r daith adref wedi codi swp o arian, gan addo bob mathau o bethau! Roedd yn rhaid i Patrick roi gwersi ffidil dros y we, werthu ei siaced liwgar, ac roedd deg alaw newydd wedi ei gomisiynu gan wahanol unigolion.

Mae'r alawon wedi dod yn gyfeillion i Patrick yn ystod cyfnod y clo. Heb gyfleoedd i berfformio'n fyw, roedd cyfansoddi a threfnu'r deunydd yma yn un o'r unig ffyrdd o gadw cysylltiad gyda'r byd creadigol, mewn amser a fyddai wedi gallu bod yn dywyll iawn fel arall.

Yn fwy diweddar, mae Patrick wedi cael pleser mawr yn ail-ddychmygu'r alawon (ar y cyd gyda Gwyn Owen a Pres A5) i mewn i gyfanwaith, a dyma ddarn olaf y gyfres i'w mwynhau.

Baner EisteddfodFfynhonnell y llun, EISTEDDFOD