Covid-19: 19 yn rhagor o farwolaethau

  • Cyhoeddwyd
Swab trwynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 19 yn rhagor o bobl wedi marw o ganlyniad i coronafeirws, sy'n mynd a'r cyfanswm i 2,033 yng Nghymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Cafodd 744 o brofion positif ychwanegol am Covid-19 eu cofnodi, gan ddod â'r cyfanswm i 59,981.

Cafodd 12,106 o brofion eu cynnal ddoe.

Cofnododd pob un o 22 awdurdod lleol Cymru achosion o'r haint, yn ôl y ffigurau newydd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd 102 o achosion newydd yn Rhondda Cynon Taf, gyda 57 yng Nghaerdydd.

Roedd 55 achos yn Abertawe a Chaerffili, a 54 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd 55 o achosion hefyd ymhlith pobl sy'n byw y tu allan i Gymru, a'r gred ydy mai myfyrwyr Cymreig ydyn nhw yn bennaf sy'n astudio mewn rhannau eraill o'r DU.

O'r 19 marwolaeth a gyhoeddwyd heddiw, roedd saith yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, saith yn rhanbarth Bae Abertawe, tair yng Nghwm Taf Morgannwg, un yn rhanbarth Hywel Dda ac un yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Straeon perthnasol