Rygbi: Tipuric yn dychwelyd i wynebu'r Gwyddelod
- Cyhoeddwyd

Y blaenasgellwr Justin Tipuric yw'r unig newid i garfan rygbi Cymru ar gyfer y gêm agoriadol yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Gwener.
Roedd Tipuric allan gydag anaf, ond fe fydd yn ychwanegiad gwerthfawr i garfan yr hyfforddwr Wayne Pivac yn erbyn y Gwyddelod.
Mae Pivac wedi dewis cadw at yr un garfan a gollodd yn erbyn yr Alban yn y Chwe Gwlad. Bryd hynny roedd yn rhaid diystyru Tipuric o achos iddo ddioddef o donsilitis.
Bydd maswr Bryste, Callum Sheedy, sydd wedi'i enwi yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf, ar y fainc.
Bydd George North yn chwarae ei ganfed gêm brawf os daw ymlaen fel eilydd.
Mae asgellwr y Gweilch wedi ennill 96 o gapiau i Gymru a thri i'r Llewod hyd yma.
Bydd y prop Tomas Francis yn ennill cap rhif 50, tra bydd deiliad record newydd y byd am gapiau rhyngwladol, a chapten Cymru Alun Wyn Jones yn chwarae ei ganfed a hanner Prawf.
Gyda North a Sheedy ar y fainc, nid oes lle i'r asgellwr Louis Rees-Zammit na'r maswr Rhys Patchell, tra bod Josh Navidi a Ross Moriarty yn parhau heb eu dewis.
Cymru: Leigh Halfpenny; Liam Williams, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Alun Wyn Jones (capt), Shane Lewis-Hughes, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Samson Lee, Jake Ball, Aaron Wainwright, Lloyd Williams, Callum Sheedy, George North.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2020

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020
