Trydar BA yn pechu cefnogwyr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae BA yn cyflogi tua 900 o staff cynnal a chadw yng Nghymru
Mae British Airways wedi ymddiheuro ar ôl cyhoeddi trydar yn cefnogi tîm rygbi Lloegr yn erbyn Cymru.
Erbyn hyn mae'r trydar oedd yn datgan "Pob lwc i dîm rygbi Lloegr yn erbyn Cymru heddiw" wedi ei ddileu.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod " wedi camsefyll" yn yr achos yma a'u bod yn ymddiheuro.
Ymhlith y rhai i ymateb oedd y darlledwr Huw Edwards wnaeth drydar "Rwy'n caru @easyJet"
Un arall oedd yn llai nag hapus oedd yr AS Llafur Alun Davies wnaeth drydar: "A da chi'n disgwyl i mi hedfan gyda chi?"
Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Rydym yn falch o fod yn noddwyr i dîm rygbi Lloegr ond y tro hwn heb feddwl fe wnaethom gamsefyll yn anfwriadol, ac rydym yn ymddiheuro. "

Tra nad yw BA yn hedfan o Gymru, mae tua 900 o weithwyr cynnal a chadw yn gweithio ar dri safle yn ne Cymru.
Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr yng Nghwpan y Cenhedloedd yr Hydref ym Mharc y Scarltets, Llanelli am 16:00.