Covid-19: Myfyrwraig nyrsio a fu'n wael yn ôl ar y ward

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Natasha in make-up and a Christmas jumperFfynhonnell y llun, Natasha Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natasha bellach yn well ac yn gweithio shifftiau hwy er mwyn cwblhau ei hyfforddiant fel nyrs

Mae dynes o'r Barri, a gafodd ei tharo yn wael gan Covid ym mis Ebrill eleni yn ôl yn gweithio ar ward ysbyty er mwyn cwblhau ei hyfforddiant i fod yn nyrs.

Ar un adeg roedd hi'n ymddangos na fyddai Natasha Jenkins yn medru goroesi'r haint ac er nad yw hi wedi gwella'n llwyr mae'n gobeithio y bydd hi'n gallu gwneud shifftiau 12.5 awr erbyn mis Mai.

Roedd Natasha ynghanol ei hail flwyddyn o hyfforddiant i fod yn nyrs pan gafodd ei tharo'n wael yn sydyn. Roedd ganddi eisoes y cyflwr iechyd IIH, dolen allanol - cyflwr sy'n achosi pwysedd uchel yn yr ymennydd.

Am dair wythnos bu ar beiriant bywyd ac am wythnosau bu ei rhieni yn edrych ar ôl ei thri phlentyn.

Fe wnaeth fideo ohoni yn dychwelyd adref at y plant gael sylw byd eang ac wedi gweld ei ffilm fe wnaeth y canwr Rod Stewart roi rhodd o £5,000 iddi er mwyn "rhoi cymorth iddi fynd drwy amserau anodd".

Natasha and her childrenFfynhonnell y llun, Natasha Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Natasha y bydd hi wastad yn ddiolchgar i staff Ysbyty Athrofaol Caerdydd am achub ei bywyd

Er bod Covid-19 wedi gadael ei ôl ar Natasha fe lwyddodd i gwblhau ei hail flwyddyn o hyfforddiant - yn rhannol gan bod y gwersi erbyn hynny ar-lein.

Wyth mis wedi'r salwch dyw hi dal ddim wedi gwella'n iawn ond mae'n falch o allu mynd yn ôl i weithio rhywfaint ar ward ysbyty.

Two "poshos" - poodle crossed with bichon frise - one adult, one a puppyFfynhonnell y llun, Natasha Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau gi Teddy a Bear wedi bod yn gwmni i Natasha ar ei theithiau cerdded er mwyn ei helpu i wella

"Dwi dal methu anadlu'n iawn ac mae fy ysgyfaint wedi chwyddo rywfaint ond mae hynny i ddisgwyl wedi'r cyfan rwy' wedi bod drwyddo," meddai.

"Bellach mae gennym ddau gi sy'n fy helpu i fynd am dro - ac mae hynny yn gwella fy anadlu ac yn cryfhau fy nghoesau. Mae'r ffisiotherapi bellach ar ben.

"Dwi dal yn cael problemau i ganolbwyntio ac mae fy nghof yn pallu weithiau ac mae'r feirws hefyd wedi cael effaith ar fy mhengliniau.

"Dwi hefyd yn disgwyl sgan ar fy ngwddf gan fod y tiwb a fu'n fy nghadw yn fyw wedi gadael craith ac hefyd wedi effeithio ar fy llais a fy ngallu i glirio fy ngwddf," meddai.

Rod Stewart and chequeFfynhonnell y llun, Natasha Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natasha Jenkins yn gobeithio defnyddio'r arian a gafodd gan Rod Stewart i fynd ar wyliau tramor

Wedi blwyddyn mor ofnadwy fe benderfynodd Natasha Jenkins y byddai'n rhoi'r goeden Nadolig i fyny ym mis Hydref eleni ac mae am ddefnyddio'r arian a gafodd gan y canwr Rod Stewart i dalu am wyliau tramor flwyddyn nesaf.

Mae Natasha bellach yn gweithio ar wardiau llawfeddygol ac yn diolch am bob cymorth gan gydweithwyr i godi ei stamina.

"Dwi mor falch," meddai, "fy mod wedi gallu dychwelyd at y gwaith. Dau ddewis oedd yna - gadael i'r holl hyfforddiant fynd yn ofer neu fwrw iddi unwaith eto.

"Dwi mor falch fy mod yn gallu gweithio eto," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig