Y bachgen wnaeth gario sach o datws i helpu cleifion Covid-19
- Cyhoeddwyd

Penderfynodd Corey Williams godi arian i ysbytai lleol trwy ddringo bryn serth wrth gario sach o datws
Dydy cario sach o datws ddim yn dasg anarferol i Corey Williams, sy'n aml yn helpu yn siop sglodion ei dad.
Ond yn ystod y cyfnod clo cyntaf, cariodd Corey sach llawn tatws am ddwy filltir at ben bryn serth ym Mhenrhys yn y Rhondda.
Roedd hynny ymhlith tair her y gwnaeth Corey - oedd yn 10 oed ar y pryd - dros wythnos i godi arian i helpu pobl oedd wedi'u heffeithio gan y pandemig.
Roedd Corey, o Don Pentre, eisiau prynu tabledi cyfrifiadurol fel bod pobl mewn ysbytai oedd ddim yn cael gweld ymwelwyr yn gallu cadw mewn cysylltiad gyda'r byd y tu allan.
"Rhowch eich hun yn eu hesgidiau nhw," dywedodd Corey. "Dydych chi methu siarad â nhw, chi methu gweld nhw.
"Mae'n wirioneddol drist ac wedyn cefais i syniad yn fy mhen i godi arian fel bod nhw'n gallu gweld pobl ar Zoom neu Facetime er mwyn gallu gweld eu hanwyliaid."
Yn ogystal â chario tatws i dop Penrhys, fe gyflawnodd Corey heriau "beicio'r Bwlch" a "rhedeg y Rhigos" o fewn wythnos.
Wrth i newyddion ledu am ei orchestion, daeth pobl i'r ffyrdd yng Nghwmparc i ddangos eu cefnogaeth trwy daro sosbenni.
Hefyd fe gafodd Corey negeseuon o gefnogaeth gan rai o'i arwyr rygbi, gan gynnwys Sam Warburton, Scott Quinnell a Nigel Owens.

Dywedodd tad Corey, Mathew Williams, ei fod yn falch iawn o'i fab
Cododd Corey £4,000 i brynu offer cyfrifiadurol ar gyfer ysbytai lleol yn cynnwys Ysbyty Brenhinol Bro Morgannwg, Ysbyty Cwm Rhondda ac Y Bwthyn.
Dywedodd tad Corey, Mathew Williams, ei fod yn hynod o falch o'i fab: "Mae'n ysbrydoliaeth gweld plentyn 10 mlwydd oed yn rhedeg lan mynydd am ddwy filltir serth, serth iawn yn y Rhondda gyda sach o datws.
"A hanner ffordd lan oedd e'n crio, a dywedodd 'fi methu rhoi'r gorau iddi, mae rhaid i fi 'neud e, byddai'n gadael pobl lawr os ddim'. Oedd hwnna'n wych."
Mae Corey'n gobeithio gwneud yr her eto eleni: "Fi'n mynd i drio gwneud e'n beth blynyddol gyda fy holl ffrindiau a rhai o fy nheulu 'falle.
"Bydde wir yn neis, a gallwn ni godi arian am rywbeth arall. Mae unrhyw beth yn bosib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020

- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020

- Cyhoeddwyd4 Mai 2020
