Dau achos o amrywiolyn newydd arall yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dr Dylan Jones, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor

Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i amrywiolyn newydd arall o'r coronafeirws yn y DU sy'n newid mewn ffyrdd all fod yn destun pryder.

Mae'r amrywiolyn B.1.525 yn ymddangos yn debyg i amrywiolyn De Affrica, a arweiniodd at brofion ar garreg y drws mewn rhai ardaloedd.

Hyd yma mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin wedi canfod 38 o achosion - dau yng Nghymru a 36 yn Lloegr - mewn samplau sy'n dyddio'n ôl i fis Rhagfyr.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod gan y ddau achos o Gymru gysylltiad â theithio i Nigeria.

Mae'r amrywiolyn wedi ei weld mewn gwledydd eraill, yn cynnwys Denmarc, Nigeria a'r Unol Daleithiau, ac mae arbenigwyr yn y DU yn ei astudio nawr i gadarnhau maint y risg ohono.

Mae'n rhy gynnar i ddatgan bod angen ei ychwanegu i restr "amrywiolion sy'n destun pryder" y DU, ac a oes angen ystyried cynnal profion torfol.

Am y tro, mae'n cael ei ystyried yn "amrywiolyn dan ymchwiliad".

'Newidiadau sylweddol'

Yn ôl un o'r gwyddonwyr sy'n cynghori Llywodraeth y DU ar fygythiadau coronafeirws posib newydd, mae'n ymddangos bod yr amrywiolyn B.1.525 â "newidiadau sylweddol" sydd eisoes wedi'u gweld yn rhaid o'r amrywiolion newydd eraill.

Mae hynny, meddai, "yn eithaf calonogol oherwydd gallwn ragweld beth yw eu heffaith debygol".

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr, ble mae mwyafrif yr achosion hyd yn hyn, yn "monitro'r data am amrywiolion sy'n dod i'r golwg yn fanwl iawn" a bydd camau ychwanegol yn cael eu cymryd os bydd angen

Ond pwysleisiodd bod "dim tystiolaeth bod y cyfres yma o newidiadau'n achosi mwy o salwch difrifol neu fwy o drosglwyddo".

Mae un o newidiadau B.1.525 - newid o'r enw E484K, a all helpu'r feirws osgoi rhywfaint o amddiffyniadau system imiwnedd y corff - hefyd wedi'i ganfod yn amrywiolion Brasil a De Affrica.

Mae newidiadau eraill yn debyg i rai amrywiolyn Caint - straen fwy heintus na fersiwn gwreiddiol Covid-19.

Y pryder yw y gallai'r feirws newid mewn ffyrdd sy'n caniatáu iddo ledu'n haws ac y byddai'r brechlynnau sydd wedi'u datblygu hyd yn hyn ddim mor effeithiol yn ei erbyn.

Pynciau cysylltiedig