
Symudodd Wrecsam i bumed yn y tabl, diolch i fuddugoliaeth gymharol gyfforddus yn erbyn Woking.
Sgoriodd Dior Angus ei gôl gyntaf dros y Dreigiau ers symud yno o glwb Barrow i roi'r tîm cartref ar y blaen ddau funud cyn yr egwyl.
Ac yn ei 100fed gêm dros ei glwb, gwnaeth Luke Young y sgôr yn 2-0 ar ôl 65 munud, gyda chic o'r smotyn.