Gweithwyr GIG 'ddim yn derbyn profion Covid yn gyson'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cotton swab and test tube for coronavirus testFfynhonnell y llun, Getty Images
GanGwyn Loader
Prif ohebydd, Newyddion

Mae'r Gweinidog Iechyd yn "ofidus" wedi i raglen Newyddion S4C ddatgelu nad yw rhai gweithwyr iechyd yn derbyn profion Covid yn gyson.

Ar 4 Rhagfyr y llynedd, fe gyhoeddodd Vaughan Gething "byddwn ni nawr yn cyflwyno rhaglen o brofion rheolaidd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen sy'n asymptomatig".

Ond mwy na thri mis wedi'r cyhoeddiad hwnnw, mae aelodau staff y gwasanaeth iechyd wedi cysylltu â BBC Cymru gan ddweud nad ydyn nhw wedi bod yn derbyn profion cyson.

Yn ôl undeb meddygon y BMA, mae rhai doctoriaid wedi dweud nad ydynt wedi cael prawf o gwbl.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi darparu mwy na 1.5 miliwn o brofion Covid cyflym i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd er mwyn cefnogi profi gweithwyr heb symptomau.

'Yr aelodau yn grac'

Mae Dr Dai Samuel yn ymgynghorydd meddygol ac yn aelod amlwg o BMA Cymru. Fe ddywedodd bod y sefyllfa yn amrywio'n fawr ar draws Cymru.

"Mae profi yn digwydd ar adegau mewn rhai lleoliadau. Ond ar y cyfan, yn enwedig wrth siarad â phobl sy'n gweithio ar y rheng flaen, dyw e ddim yn digwydd bob wythnos."

Dr Dai Samuel
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Dai Samuel nad yw gweithwyr y GIG yn cael profion cyflym Covid yn ddigon cyson

Dywed Dr Samuel mai dau brawf mae e wedi'i gael drwy gydol y pandemig, ac mae'n dweud nad yw hynny yn anghyffredin.

"Wrth siarad â phobl sydd yn gweithio ar y rheng flaen, dyw e ddim yn digwydd bob wythnos.

"Os oes symptomau gyda chi, chi yn cael prawf ond o ran profi'r rhai sydd yn gweithio ar y rheng flaen a heb symptomau, dyw e ddim yn digwydd yn gyson."

"Mae'n aelodau yn grac fi'n credu. Ni'n fwy na pharod i roi ein hunain ar risg o gael Covid.

"Ond eto, chi'n clywed a siarad â phobl sy'n gweithio yn y byd ffilm, neu ysgolion - maen nhw'n cael lateral flow test, ac wedyn pobl sy'n gweithio o fewn byrddau iechyd, dy'n nhw ddim yn cael e.

"Pan fi'n trafod e gyda ffrindiau, maen nhw'n shocked i glywed hynny."

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd Vaughan Gething i'w weld yn ymwybodol o'r broblem yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Mercher

Pan holwyd Vaughan Gething yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Mercher, doedd e ddim i weld yn ymwybodol o'r broblem.

"Fe ddylen nhw fod ar gael. Yn ôl y wybodaeth dwi'n derbyn, maen nhw'n mynd mas yn gyson.

"Dwi'n ofidus ac felly dw'i angen mwy o wybodaeth er mwyn rhoi ateb llawn a datrys y broblem os oes un.

"Dyna holl bwynt y profion yma yw rhoi tawelwch meddwl i bobl a rhoi arf arall i ni i geisio deall ble mae coronafeirws a galluogi pobl i brofi eu hunain a diogelu'r rheiny o'u hamgylch," meddai.

Mater sy'n peri 'pryder'

Yn ôl Dr Dai Samuel ar ran BMA Cymru: "Mae'n bryder i ni fod y Gweinidog Iechyd ddim yn gwybod beth sydd yn digwydd ar lawr gwlad.

"Mae'n rhaid i'r llywodraeth falle siarad â'r byrddau iechyd a deall pam nad yw hyn yn digwydd.

"Os yw'r llywodraeth yn dweud bod nhw'n meddwl bod e'n mynd 'mlaen, dyw hynny ddim yn wir. "

Ar gais y Gweinidog Iechyd, fe wnaeth Newyddion S4C ddarparu rhagor o wybodaeth am y cwynion i'w swyddfa er mwyn iddo fe allu rhoi ateb manylach a datrys y broblem.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd eu bod nhw wedi darparu mwy na 1.5 miliwn o brofion Covid cyflym i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd er mwyn cefnogi profi gweithwyr heb symptomau a'u bod nhw wrthi yn ehangu'r rhaglen a'n darparu profion i ofal cynradd, contractwyr annibynnol ac ysbytai annibynnol drwy Gymru.