Covid yng Nghymru: Golwg ar y wleidyddiaeth y tu ôl i'r pandemig
- Cyhoeddwyd

Dywed y gweinidog iechyd y dylai'r cyfnod clo wedi digwydd yn gynt yng Nghymru
Ym mis Chwefror y llynedd, wrth i bobl ddod â choronafeirws adref o wyliau hanner tymor yn Ewrop, fe aeth pethau'n "llawer mwy real yn gyflym iawn", meddai'r Gweinidog Iechyd ,Vaughan Gething.
Cafodd yr achos cyntaf yng Nghymru ei gadarnhau ar 28 Chwefror wedi i rywun oedd wedi bod yng ngogledd yr Eidal gael ei heintio.
Roedd y llywodraeth yn paratoi am lawer mwy o gleifion. Erbyn 13 Mawrth, cafodd gwaith arferol y gwasanaeth iechyd ei ohirio.
Ar y pryd fe ddywedodd gwrthwynebwyr gwleidyddol bod angen gwneud mwy, gan gynnwys cau ysgolion a chanslo digwyddiadau mawr.
Hyd yn oed ar ôl i gem rygbi Cymru yn erbyn yr Alban ar 14 Mawrth gael ei chanslo, dywedodd gweinidogion nad oedd y cyngor gwyddonol yn dangos y byddai'n achub bywydau.
Ond ar ôl y penwythnos yna fe newidiodd y sefyllfa wrth i ymchwil syfrdanol ddangos y byddai'r gwasanaeth iechyd yn wynebu pwysau aruthrol.
Y dydd Llun canlynol - y diwrnod y cyhoeddwyd marwolaeth gyntaf Cymru yn gysylltiedig â'r coronafeirws - roedd Mr Gething mewn cyfarfod brys gyda llywodraeth y DU yn Whitehall.

'Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai effaith Covid mor fawr,' medd y Gweinidog Iechyd
Hyd yn oed cyn hynny mae'n dweud "roedden ni'n disgwyl effaith sylweddol - ond doedden ni dal ddim yn deall pa mor fawr y byddai'r effaith bryd hynny".
Roedd y sefyllfa waethaf posib yn argoeli "apocalyps go iawn" gyda channoedd o filoedd o farwolaethau mewn blwyddyn.
Felly a wnaethon nhw golli cyfle i weithredu'n gynt?
Mae Mr Gething bellach yn dweud y byddai dechrau'r cyfnod clo yn gynharach wedi achub mwy o fywydau, ond dyw e ddim yn barod i ddweud pryd y dylai hynny wedi bod.
"Bryd hynny fe wnaethon ni ddewisiadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r wyddoniaeth orau," meddai.
"Pe bai gennym y dystiolaeth sydd gennym nawr, bydden ni wedi gweithredu'n wahanol."

Dywedodd y gwrthbleidiau y gallai Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gynt
Dywed llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithredu'n gyflymach, er enghraifft drwy brynu offer diogelwch yn gynt, ond ei fod yn amhosibl dweud pryd y dylai'r cyfnod clo fod wedi dechrau gan fod y pandemig mor annisgwyl.
Dywed Rhun ap Iorwerth, o Blaid Cymru, fod y cyfyngiadau wedi dod yn rhy hwyr, ond bod blynyddoedd o fethu â pharatoi'r sector iechyd a gofal yn golygu bod yr argyfwng wedi taro'n galetach.
"Dyma'r problemau a oedd wedi'u gwreiddio'n ddwfn iawn a daethant yn ôl i'n brathu mewn ffordd erchyll dros y flwyddyn ddiwethaf."
Dywed arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, y byddai wedi bod yn anodd iawn i'r llywodraethau datganoledig ddilyn trywydd eu hunain gwanwyn diwethaf.
"Ry ni'n ynys ac mae'n rhaid i ni weithredu yn y ffordd honno," meddai.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod dryswch wedi'i achosi rhwng cyfyngiadau lleol a chenedlaethol yn yr hydref
Profi
Ym misoedd Mawrth ac Ebrill, rhyddhawyd dros fil o gleifion o ysbytai i gartrefi gofal heb brawf.
Dim ond ar ddiwedd Ebrill dechreuwyd profi'n rheolaidd mewn cartrefi gofal.
Mabwysiadwyd yr un polisi, a ddisgrifiwyd gan adroddiad yn Nhŷ'r Cyffredin fel camgymeriad "gwarthus", yn Lloegr.
Ond mae Mr Gething yn gwadu casgliad un o bwyllgorau'r Senedd wnaeth honni bod cartrefi gofal wedi "dioddef" oherwydd bod y llywodraeth wedi ymateb yn rhy araf.
"Rwy'n credu bod y pwyllgor iechyd yn anghywir", meddai Mr Gething.
Mae'n cyfeirio at ymchwil a ganfu na ellid beio achosion o goronafeirws mewn cartrefi gofal ar gleifion a gafodd eu rhyddhau o'r ysbyty. Roedd maint a math y cartref yn ffactorau pwysicach, meddai.
Ond dyw'r gwrthbleidiau ddim yn cytuno.
Roedd y polisi'n "hurt", meddai Mrs Burns. Dywed Mr ap Iorwerth nad oes ganddo "unrhyw amheuaeth" mai camgymeriad ydoedd.

Fe gymerodd tan yr haf i adeiladu gyfundrefn brofi torfol
Erbyn hyn, mae Cymru a Phrydain ymhlith y gwledydd gorau am brofi pobl yn y gymuned, yn ôl adroddiad y mis hwn.
Ond fe gymerodd hi tan yr haf i adeiladu cyfundrefn brofi torfol.
Dywed Mr Gething fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi archebu cyfarpar profi ym mis Ionawr, ond bod mewnforion wedi cael eu "dal mewn gwledydd eraill y tu hwnt i'n rheolaeth".
Yr ail don
Ni allai cyfnodau clo ardaloedd lleol na chyfnod clo byr cenedlaethol fod wedi atal ail don o goronafeirws.
Mae Mr ap Iorwerth yn dweud dylai'r clo byr yn yr hydref wedi parhau'n hirach.
Dywed Mrs Burns bod "gormod o neidio o gwmpas" rhwng cyfyngiadau cenedlaethol a lleol wedi digwydd.
Ym mis Rhagfyr, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod y clo byr wedi gweithio cystal ag oedden nhw'n disgwyl, ond bod rhai o'r cyhoedd oedd "wedi cael digon" wedi methu cadw at y rheolau.
Yn fuan, roedd yn amlwg bod amrywiolyn newydd mwy heintus yn lledaenu'n gyflym, gan olygu bod yn rhaid i Brydain oll fynd dan glo eto cyn y Nadolig.

Dywedodd Vaughan Gething bod y llywodraeth wedi cymryd y penderfyniad cywir drwy brynu brechlynnau'n gynnar
Brechu
Mae mwy na hanner oedolion Cymru wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn gan un o raglenni frechu cyflyma'r byd.
Ond mae Ms Burns yn dweud mai llywodraeth Boris Johnson sy'n haeddu'r clod am archebu cyflenwadau mawr o frechlynnau cyn gwybod a fyddai unrhyw un ohonyn nhw'n gweithio.
Mae Mr Gething yn dweud bod llywodraeth y DU, er iddyn nhw "gael nifer o bethau'n anghywir", wedi cymryd y penderfyniad cywir drwy brynu brechlynnau'n gynnar.
Beth nesaf?
Yn y pen draw bydd ymchwiliad yn asesu'r ymateb i'r pandemig.
Dywed Mark Drakeford y dylai gweithrediadau Llywodraeth Cymru gael eu craffu fel rhan o ymchwiliad Prydeinig.
Ond mae Mr ap Iorwerth yn dweud bod hynny'n "osgoi cyfrifoldeb" a bod angen ymchwiliad Cymreig.
Dywed Ms Dodds y dylid cael ymchwiliadau Cymreig a Phrydeinig, a dyna farn y Ceidwadwyr yn y Senedd hefyd.
Y sawl fydd yn ennill etholiad y Senedd ym Mai fydd yn penderfynu ar ba fath o ymchwiliad a phryd.
Ond bydd yn rhaid iddyn nhw barhau i frwydro'r argyfwng hefyd, meddai Mr Gething.
"Gyda'r holl lwyddiant rydyn ni wedi'i weld yn ein rhaglen frechu mae dyddiau anodd iawn o'n blaenau o hyd ac mae gan bwy bynnag sy'n ffurfio'r llywodraeth nesaf ddewisiadau anodd iawn i'w gwneud os ydyn ni'n mynd i gadw Cymru'n ddiogel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020

- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021

- Cyhoeddwyd27 Mai 2020
