Fideos i roi 'hyder' yn ôl i'r rhai sydd wedi cysgodi

Mae fideos gafodd eu cynhyrchu i helpu pobl sydd â dementia yn wreiddiol yn mynd i gael eu defnyddio i roi hyder i'r rhai sydd wedi cysgodi wrth ail-ymuno gyda chymdeithas.

Mae arbenigwr wedi dweud y gallai'r rhai sydd wedi cysgodi fod ag ofn mentro allan o'r tŷ yn dilyn misoedd yn eu cartrefi.

Mirain Llwyd Roberts ydy Cydlynydd Pontio'r Cenedlaethau i Gyngor Gwynedd, a dywedodd y bydd rhai unigolion yn "bryderus" gan fod "llefydd yn edrych yn wahanol".

Y gobaith, meddai, ydy tawelu meddyliau a dangos bod y mesurau cywir mewn grym i gadw pobl yn ddiogel.