Arweinwyr y pleidiau'n mynd benben mewn dadl deledu fyw
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr prif bleidiau Cymru wedi anghytuno ar lefel y gefnogaeth sydd wedi bod ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, mewn dadl ar BBC Cymru.
Dywedodd Arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford fod £200m yn aros i gael ei wario gan y prif weinidog nesaf ar ôl yr etholiad i roi mwy o help i gwmnïau sy'n cael eu heffeithio gan y pandemig.
Ond roedd Adam Price o Blaid Cymru yn cwestiynu pam na ellid fod wedi ei wario cyn y bleidlais ar 6 Mai.
Dywedodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies fod arian heb ei ddyrannu yng nghoffrau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Jane Dodds y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cefnogi busnesau canolig, bach a micro.
Yn y cyfamser dywedodd Richard Suchorzewski ar ran Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, y dylai rhenti cwmnïau gael eu dileu am y tro i'w hannog i agor.

Dywedodd Mark Drakeford bod £200m ar gael i'r prif weinidog nesaf ei wario
Apeliodd y pump am gefnogaeth gan bleidleiswyr yn y ddadl arbennig ar BBC Cymru a gynhaliwyd nos Iau, wythnos cyn etholiad Senedd Cymru ar 6 Mai.
Fis diwethaf galwodd Plaid Cymru ar i Mr Suchorzewski gael ei adael allan o'r achlysur. Yn ystod y ddadl ymosododd sawl un o arweinwyr y pleidiau ar safiad gwrth-ddatganoli ei blaid.
Dywedodd Mr Drakeford fod ei lywodraeth wedi neilltuo £200m "fel blaendal i helpu busnesau yn syth ar ôl yr etholiad".
"Pwy bynnag sydd yn y llywodraeth, pa un bynnag ohonom ar y platfform hwn sy'n brif weinidog ar ôl dydd Iau nesaf, bydd cynigion yn aros ar y ddesg iddynt wario'r arian hwnnw i gefnogi busnesau."

Cwestiynodd Adam Price yr oedi wrth wario'r arian
Ond cwestiynodd Mr Price pam fod Mr Drakeford yn aros tan ar ôl yr etholiad.
"Pam aros?" meddai.
"Yn Lloegr a'r Alban bu grantiau ailgychwyn o hyd at £18,000, £19,000, a fydd yn cael eu darparu i fusnesau lletygarwch, ac eraill sydd wedi gorfod aros ar gau a wynebu'r costau."
Mewn ymateb, dywedodd Mr Drakeford: "Mae'n rheswm syml iawn; nid yw'r rheolau yn caniatáu hynny.
"Pe bawn i'n dosbarthu sieciau i fusnesau yng Nghymru, Adam Price fyddai'r person cyntaf i feirniadu fi."
Dywedodd Mr Price nad oedd hynny'n wir, gan ddweud iddo alw am alw'r Senedd yn ôl ac y byddai wedi ei gefnogi.
Dywedodd Mr Davies mai dyma pam ei fod wedi galw "yn ôl ym mis Chwefror am fap ffordd allan o'r cyfnod clo".
"Felly gallai'r cyhoeddiad hwnnw fod wedi cael ei wneud y tu allan i gyfnod yr etholiad fel bod yr arian hwnnw ar gael i fusnesau ledled Cymru."

Fe wnaeth Richard Suchorzewski gwyno am y defnydd o argraffu llythyrau yn Saesneg a Chymraeg ar gyfer profion Covid-19
Dywedodd Mr Suchorzewski fod y GIG yng Nghymru wedi cael ei "gamreoli'n llwyr" yn y 22 mlynedd diwethaf.
Dywedodd bod pump o fyrddau iechyd Cymru, cyn y pandemig, wedi bod dan fesurau arbennig.
Dywedodd Mr Suchorzewski y dylid dychwelyd rheolaeth ar y GIG i Lywodraeth y DU: "Dylai fod un GIG i bawb - a dylid ei roi o dan arweiniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig".
Arweiniodd hynny at Mr Drakeford i gyhuddo Plaid Diddymu Cynulliad Cymru o "ddileu popeth y mae ein pobl wedi'i wneud dros y 12 mis rhyfeddol ddiwethaf".
"Wrth i ni sefyll yma heddiw, Cymru sydd â'r gyfradd isaf o coronafeirws yn unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig a'n rhaglen frechu yw'r fwyaf llwyddiannus o unrhyw un o bedair gwlad y DU."
Fe wnaeth gydnabod fod Llywodraeth y DU wedi gwneud gwaith da yn sicrhau'r cyflenwad o frechlynnau, "ond yma yng Nghymru, rydyn ni wedi defnyddio'r cyflenwad hwnnw yn fwy effeithiol nag unrhyw le arall".

POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs

Ar ôl i Mr Suchorzewski gwyno am y defnydd o argraffu llythyrau yn Saesneg a Chymraeg ar gyfer profion Covid-19, fe wnaeth Mr Price ei gyhuddo o fod eisiau cael gwared ar y Gymraeg: "Nid ydyn nhw am ddileu ein Senedd, maen nhw eisiau dileu ein hiaith hefyd."
Dywedodd Mr Davies: "Mewn gwirionedd os nad yw'r tîm rygbi'n chwarae'n dda dydych chi ddim... yn ei dynnu allan o'r gystadleuaeth, rydych chi'n newid y strwythur rheoli, rydych chi'n newid yr hyfforddwr ac rydych chi'n cael y tîm i berfformio."
Ar ochr arall y ddadl gyfansoddiadol, dywedodd Mr Price mai nawr oedd yr amser i ddechrau adeiladu tuag at refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
"Trwy gymryd ein dyfodol i'n dwylo ni ein hunain, dyna'r ffordd rydyn ni'n datrys ein problemau, ni fydd yr atebion byth yn dod o San Steffan," meddai.
Pan ofynnwyd iddo sut y byddai Cymru wedi ymdopi ar ei phen ei hun wrth ddelio â Covid, cyhuddodd Mr Price Llywodraeth y DU o ddwyn profion Covid o Gymru: "Cawsom ni brofion oedd yn barod i ddod i Gymru, ac fe gethon nhw eu dwyn gan Lywodraeth y DU."

Dywedodd Andrew RT Davies y byddai Plaid Cymru a Phlaid Diddymu yn achosi "anhrefn cyfansoddiadol"
"Rwtsh," meddai Mr Davies, gan ddweud y byddai Mr Price a'r Blaid Diddymu yn achosi "anhrefn cyfansoddiadol... gyda refferendwm annibyniaeth, ac yn wir y refferendwm diddymu y byddai'n ofynnol iddo wneud i ffwrdd â Senedd Cymru".
Wrth ymateb i gwestiwn am y ffrae dros ailwampio fflat Boris Johnson, dywedodd Mr Davies: "Nid oes gan bobl ddiddordeb yn y papur wal yn Downing Street, ond mae ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffordd maen nhw'n cael apwyntiad mewn meddygfa.
"Gallwn ni gael system addysg well, gallwn gael gwasanaeth iechyd sy'n ymateb i amseroedd aros. Gallwn greu economi sy'n codi cyflogau ledled Cymru gyfan ac yn gwneud gwahaniaeth."

Galwodd Jane Dodds ar bleidleiswyr i "ddychmygu" Cymru well
Galwodd Jane Dodds ar i Gymru gael yr un lefel o ddatganoli a'r Alban.
Dywedodd "nad ydym ni angen annibyniaeth", ac y byddai'n well canolbwyntio ar greu swyddi a gwella iechyd.
Galwodd ar bleidleiswyr i "ddychmygu" Cymru well.

Yn dilyn cyfle'r prif bleidiau, cafwyd dadl arall gyda chynrychiolwyr y pleidiau llai - Neil Hamilton, UKIP Cymru; Jamie Jenkins, Reform UK; ac Amelia Womack o'r Blaid Werdd.
Ar ran Reform UK, dywedodd Jamie Jenkins fod ei blaid yn erbyn mwy o gyfnodau clo Covid.
Honnodd fod gan y mwyafrif o bobl wrthgyrff bellach a bod cyflwyno'r brechlyn yn llwyddiannus yn golygu nad oes angen cyfyngiadau mwyach.
Dywedodd Mr Jenkins fod pleidleiswyr wedi rhoi eu hymddiriedaeth yn y blaid pan oedd yn Blaid Brexit a dywedodd bod yr wythnos nesaf yn gyfle i bleidleiswyr roi eu hymddiriedaeth eto "i gyflawni unwaith eto".
"Rydyn ni eisiau diwygio'r Senedd, dydyn ni ddim eisiau ei ddiddymu, dydyn ni ddim eisiau annibyniaeth, rydyn ni eisiau gwneud Cymru yn lle gwell", ychwanegodd.

Neil Hamilton, UKIP, Amelia Womack o'r Blaid Werdd a Jamie Jenkins, o Reform UK cyn yr ail ddadl fyw
Ar ran UKIP, dywedodd Neil Hamilton: "Mae'r syniad bod y Senedd mewn unrhyw ffordd yn cynrychioli pobl gyffredin yng Nghymru yn nonsens."
Dywedodd mai Cymru oedd rhan dlotaf y DU: "Rydyn ni'n dlotach heddiw na 22 mlynedd yn ôl.
"Rydyn ni wedi cael llywodraeth Lafur barhaol ac rydyn ni'n mynd i gael llywodraeth Lafur eto ar ôl 6 Mai, oherwydd mae Plaid Cymru eisoes yn nesáu at Mark Drakeford."
Dywedodd Mr Hamilton y byddai'n cefnogi refferendwm ar annibyniaeth, ond ei fod hefyd yn cynnwys opsiwn i "gael gwared ar y Senedd".
Roedd eisiau "system lle rydyn ni'n trosglwyddo pŵer nid o un set o wleidyddion o Gaerdydd i San Steffan neu i'r gwrthwyneb ond yn trosglwyddo pŵer i'r bobl".
Dywed Amelia Womack o'r Blaid Werdd fod pleidlais dros swyddi gwyrdd yn bleidlais i "ailadeiladu Cymru sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif".
Pan ofynnwyd iddi sut y byddai'n ailadeiladu'r economi wrth warchod yr amgylchedd, dywedodd Ms Womack "y dylai fod adferiad yr amgylchedd wrth wraidd hyn, oherwydd ei fod yn golygu swyddi a chyfleoedd, hyfforddiant ac addysg, ac mae'n golygu ein bod ni'n mynd i'r afael â phroblemau mwyaf ein hamser."
Dywedodd Ms Womack na allai Cymru anwybyddu'r "argyfwng hinsawdd pan fydd pobl o amgylch Cymru yn dioddef llifogydd, a threfi arfordirol o bosibl mewn perygl o gael eu dinistrio oherwydd bod lefelau'r môr yn codi."
Dywedodd hefyd ei bod yn "jyst ddim yn wir" y byddai swyddi'n cael eu colli oherwydd targedau gwyrdd ei phlaid, ac y byddai beth oedd hi'n ei alw'n "dur gwyrdd" yn rhan allweddol o'r dyfodol.
Ychwanegodd: "Nid yw dur mewn perygl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2024





















