Cerdd Y Tadau Pêl-droed gan Gwion Hallam

Mae ’na ferched sydd wedi gwirioni;

rhai gwragedd sy’n rhannu obsesiwn

eu gwŷr a’u gwaed yn eu cario

i bob gêm. Ac mae ’na famau’n

addoli wrth allor y bêl.

Ond y bechgyn – a’u tad –

yw mynaich eithafol tŷ ni.

Y ni sy’n cael rhyddid i ddilyn

y ffydd. Aberthu’n teuluoedd

ac ysgol a gwaith; dilyn y daith

a’i droeon di-hid i syllu

ar y duwiau dros dro.

A’r tadau a’u meibion,

o’n pentref bach ni,

a gafodd y fraint o bererindota

i Boredeaux. Ni’r dynion

wnaeth wasgu’n ddifeddwl i fws -

heb fwgwd i fygu ein sgwrsio

iach, na gofal ond cyrraedd y gêm.

*

A Bordeaux, Bordeaux -

i dad a mab mae’r cof yn rhydd a Bale

o hyd yn hollti’r awyr goch.

Bordeaux, Bordeaux -

mae’r wyrth o rannu’r wefr

yn fyw – a’r anthem fydd yn emyn croch

i dad a’i fab am byth.

*

Eleni ni fydd bws na thaith. Y tadau

fydd yn gaeth i’w tai, a rhai

efallai’n gwylio’n sied yr ardd.

Ond hei, pa ots? Mi fydd yna rannu

gwefr o hyd - i dad a mab, neu fab

a’i fam; i deulu crwn ein cartref bler

wrth ddilyn duwiau’r bêl.

Ein braint fydd rhannu’r profiad prin;

y perthyn fydd y peth. Ystafell fyw

a’r sgrin yn allor rad.

Bydd hen wlad ein mamiaith yn annwyl i ni

a’r anthem yn canu o hyd.

Gwion Hallam