Terfysgwr Finsbury Park 'bron yn ddall' wedi ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Darren OsborneFfynhonnell y llun, Heddlu'r Met
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Osborne yn treulio oes yn y carchar am ymosodiad terfysgol a laddodd un dyn ac anafu naw arall

Mae dyn o Gaerdydd a yrrodd fan i mewn i dorf ger mosg yn Llundain mewn perygl o golli ei olwg mewn un llygad ar ôl ymosodiad arno yn y carchar, mae llys wedi clywed.

Cafodd Darren Osborne ddifrod parhaol i'w lygad dde ar ôl iddo gael ei drywanu gan y llofrudd Patrick Chandler mewn ymosodiad ar gae chwaraeon carchar Full Sutton.

Defnyddiodd Chandler declyn pren miniog i drywanu Osborne yn ei ben, ei fraich a'i dorso ar 7 Awst y llynedd.

Cafodd Osborne ei ddedfrydu i o leiaf 43 mlynedd yn y carchar am yr ymosodiad terfysgol a laddodd un dyn, Makram Ali, ac anafu naw arall ym mis Mehefin 2017.

Clywodd Llys y Goron Hull bod Patrick Chandler, 48, wedi ei ddedfrydu i oes gydag isafswm o 18 mlynedd am lofruddio John Comer ym Manningtree, Essex, yn 2017.

Cafodd 10 mlynedd ychwanegol yn ddiweddarach ar ôl iddo ymosod ar garcharor arall mewn carchar yn Chelmsford.

Ond mae'r ymosodiad ar Osborne bellach wedi rhoi wyth mlynedd ychwanegol iddo dan glo.

Dywedodd barnwr wrtho na fyddai'n gymwys i gael parôl tan 2056 - pan fydd yn 83 oed.

Mae Patrick Chandler wedi dyblu ei gyfnod yn y carchar gyda'i ymddygiad yn y carcharFfynhonnell y llun, Heddlu Essex
Disgrifiad o’r llun,

Mae Patrick Chandler wedi dyblu ei ddedfryd gyda'i ymddygiad yn y carchar

Dywedodd yr erlyniad wrth y llys fod ymosodiad Chandler wedi gadael Osborne gyda "difrod sylweddol" a "difrod parhaol" i'w lygad.

Dywedodd ei Anrhydedd y Barnwr McKone fod Osborne wedi cael ei adael "yn ofnus iawn o golli'r golwg yn ei lygad dde", ac er bod disgwyl iddo wella'n llwyr, y gallai fod angen llygad gwydr yn y dyfodol.

Gadawodd yr ymosodiad hefyd ddifrod parhaol i'w fraich.

Plediodd Chandler, o Full Sutton, yn euog i achosi niwed corfforol difrifol a chael offer miniog yn y carchar mewn gwrandawiad cynharach.

Straeon perthnasol