Trychineb Gleision: 'Pwysig cofio'r rheiny fu farw'
Mae teuluoedd pedwar o lowyr fu farw mewn pwll glo yn ne Cymru yn galw am gwest i'r marwolaethau, ddegawd wedi'r trychineb.
Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan ddaeth dŵr i mewn i bwll glo Gleision yng Nghilybebyll, Castell-nedd Port Talbot ym mis Medi 2011.
Cafwyd rheolwr a pherchnogion y lofa yn ddieuog o ddynladdiad yn 2014.
Dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) nad oedd yn gallu gwneud sylw oherwydd mai'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron oedd yn arwain yr ymchwiliad a'r achos i'r digwyddiad.
Gweddw Charles Breslin, Mavis, a mab Garry Jenkins, Alex, fu'n rhannu eu hatgofion a'u pryderon gyda BBC Cymru a Newyddion S4C.