'Bydd y costau newydd yn cael effaith andwyol'

Ym mis Tachwedd bydd elusennau a sefydliadau di-elw sy'n bancio gyda banc yr HSBC yn gorfod talu cost o £60 y flwyddyn am cadw'r cyfrif ar agor.

Dywed nifer o elusennau bod y costau newydd yn ergyd a bod angen edrych eto ar y penderfyniad.

Yn ogystal bydd tâl o 0.4% am dynnu a rhoi arian yn y cyfrif, tâl o £4 ar rodd o £1,000 a thâl o 40c am bob siec a ddefnyddir.

Bydd elusennau hefyd yn gorfod talu 1.5% pan yn codi newid mân o'r banc ar gyfer digwyddiadau codi arian ond fe fydd gwasanaethau ar-lein am ddim.

Dywed Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, nad yw'r "costau yn gwneud unrhyw synnwyr".