Cynhyrchiad rhwng Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru
Mae Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cydweithio ar gynhyrchu cyfres o ddramâu meicro.
Cafodd y gyntaf yn y gyfres 'Enfys' ei chyhoeddi yn haf 2020. Yn y bennod honno gwelsom Nick, sy'n dysgu Cymraeg, yn ceisio cwblhau ei dasg gwaith cartref. Eleni, i nodi Wythnos Dathlu dysgwyr Radio Cymru, mae tair pennod newydd yn cael eu rhyddhau dros y tridiau nesaf am 19:00.
Gallwch eu gwylio yma ar Cymru Fyw, neu ar ein tudalen Facebook, dolen allanol, yn ogystal ag ar sianel YouTube Theatr Genedlaethol Cymru, dolen allanol. Mae fersiynau â chapsiynau Cymraeg a Saesneg a fersiwn Iaith Arwyddo Prydain (BSL) ar gael ar y sianel hefyd.