Cannoedd mewn rali argyfwng ail gartrefi yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Rali Bae CaerdyddFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith

Mae cannoedd o bobl mewn cymryd rhan mewn rali o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd gan galw am weithredu ar frys i ddelio â'r argyfwng tai.

Mae 'na alw am Ddeddf Eiddo er mwyn rheoli prisiau tai a rhent, fel bod pobl yn gallu fforddio prynu tai yn eu hardaloedd lleol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cynghorau sir yng Nghymru ydi'r unig rai yn y Deyrnas Unedig sy'n gallu dyblu treth y cyngor ar ail gartrefi.

Mabli Siriol Jones yn annerch y raliFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones yn annerch y rali

Wrth annerch y dorf, dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones: "Mae pobl yn gweld anghyfiawnder y system tai a chynllunio yn eu bywydau bob dydd, ymhob rhan o'r wlad.

"Nid yw'n iawn bod yna rai gyda mwy nag un tŷ, tra bod eraill yn ddigartref.

"Mae'r dystiolaeth yn glir — boed hynny'r bobl sy'n gorfod dewis rhwng talu am wres neu rent; y bobl ifanc sy'n gorfod gadael eu cymuned i allu fforddio cartref; neu'r bobl sy'n gweld bywyd eu cymunedau yn edwino o ganlyniad i dai moethus sy'n aros yn wag am ran fwyaf y flwyddyn.

"Y farchnad rydd yw craidd y problemau Cymru-gyfan hyn, sy'n amlygu eu hunain mewn amryw o ffyrdd yn ein cymunedau. Ond canlyniad penderfyniadau gwleidyddol yw hyn, ac mae modd gwneud pethau'n wahanol."

Rali Bae Caerdydd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cynyddu argaeledd cartref yw'r ffordd orau i fynd i'r afael â chodiadau mewn taliadau rhent.

"Dyma pam rydym wedi gwneud addewid i godi 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu dros y pum mlynedd nesaf a chyflwyno nifer o gynlluniau i helpu awdurdodau lleol ailddefnyddio cartrefi gwag.

"Rheoli rhent yw un o'r camau niferus eraill rydym yn eu hystyried fel rhan o ein nod i sicrhau bod pawb yng Nghymru'n gallu cael cartref safon da a fforddiadwy."

Ychwanegodd y bydd deddfwriaeth yn dod i rym haf nesaf a fydd "yn trawsnewid trefniadau cyfreithiol rhentu".

Bydd hynny'n cynnwys yr "angen i landlordiaid roi chwe mis o rybudd i ddod â chytundeb i ben ble nad yw'r tenant ar fai".

Rhai o'r protestwyr ym Mae Caerdydd ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r protestwyr ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn