13,000 i elwa o gynnydd y cyflog byw gwirioneddol
Fe fydd 13,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael codiad cyflog o ddydd Llun ymlaen wrth i'r cyflog byw gwirioneddol godi.
Mae'n codi o 40c - o £9.50 i £9.90 yr awr.
Cynllun gwirfoddol ydy'r cyflog byw gwirioneddol, sy'n wahanol i'r cyflog byw cenedlaethol.
Mae dros 350 o gwmnïau yn talu'r cyflog byw gwirioneddol, cynnydd o 44% yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ogystal â'r budd ariannol, dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan bod y cyflog uwch yn rhoi teimlad o werth i staff gan eu cyflogwyr.