
Geraint Jones, y mab fferm 10 oed; a'r gwyddonydd yr Athro Geraint Jones heddiw
Fe gafodd yr Athro Geraint Jones ei argymell i beidio astudio seryddiaeth pan yn iau, ond mae'r dystiolaeth iddo fod yn iawn i anwybyddu'r cyngor i'w ganfod cannoedd o filiynau o filltiroedd i ffwrdd rhwng y blaned Mawrth ac Iau.
Ar fferm ym Mhentraeth, Ynys Môn magwyd y gwyddonydd ond y bydysawd uwch ei ben yn hytrach na'r pridd o dan ei draed oedd ei ddiléit pan yn blentyn.
Ac mae'n cydnabod bod ei fagwraeth wedi ei helpu i ddod yn arbenigwr ar y gofod oherwydd y diffyg goleuni artiffisial yng nghefn gwlad.
"Roedd diddordeb gen i erioed a dwi'n cofio edrych i fyny ar yr awyr dywyll yn y nos, gweld y sêr ac astudio'r planedau a ballu," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru. "Pan oedd rhywbeth ar y teledu ynglŷn â gwyddoniaeth y gofod ac astronauts yn mynd i'r gofod ac ati, ro'n i'n dilyn y rheiny yn frwdfrydig iawn."

Yr Athro Geraint Jones yn 10 oed ar fferm Bryn Hyrddin, Pentraeth, gyda'i dad, y diweddar Eifion Hughes Jones
Datblygodd ei ddiddordeb wrth ddarllen am seryddiaeth yn ei amser rhydd, cyn astudio Lefel A mewn ffiseg, cemeg a mathemateg yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Anelu am y sêr
Penderfynodd roi cynnig am le yn astudio seryddiaeth yn y brifysgol yn Llundain a thrafod ei gynlluniau gyda swyddog gyrfaoedd ddaeth i'r ysgol i siarad gyda'r disgyblion.
Dywedodd Geraint: "Ges i lythyr ganddo yn fy annog i beidio gwneud hynny, bod o yn bwnc rhy gyfyng a basa'n well gwneud rhywbeth mwy cyffredinol fel ffiseg.
"Dwi'n deall yn iawn pam roedd o'n dweud hynny... ond dwi wedi cadw'r llythyr yna! Roedd o'n dweud rhywbeth call ond dwi'n falch mod i wedi ei anwybyddu fo ac wedi sticio at fy niddordebau.
"A dwi'n ddiolchgar iawn hefyd i Mam a Dad eu bod nhw wedi gadael i mi fynd i astudio maes mor wahanol i ffermio. Wrth gwrs y peth naturiol i fi wneud fyddai aros adra a ffermio ar eu hôl nhw ond wnaethon nhw roi'r rhyddid i fi wneud rhywbeth hollol wahanol a dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hynny."

Yr Athro Geraint Jones, yng nghanolfan ESTEC yr European Space Agency yn yr Iseldiroedd, yn cynllunio’r profydd gofod Comet Interceptor. Gydag o yn y llun mae'r Dr Colin Snodgrass, o Brifysgol Caeredin, ei ddirprwy ar y tîm
Ar ôl ail-sefyll ei arholiadau Lefel A, aeth yn ei flaen i wneud gradd a doethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), cyn dechrau gwneud gwaith yn yr Imperial College London yn yr 1990au gyda phrosiect Ulysses, prob ofod fu'n teithio i begynau'r haul i fesur ei faes magnetig a gwynt heulol.
Y Guinness Book of Records
Yn 1999, wrth ymchwilio data gafodd ei gasglu gan y llong ofod dair blynedd ynghynt, fe welodd ddata anghyffredin iawn. Wedi ymchwilio ymhellach, daeth o a'i dîm i'r casgliad mai comed Huakuatake oedd wedi croesi llwybr Ulysses, a phrofi bod hyd cynffon y gomed yn 350 miliwn o filltiroedd, yr hiraf erioed i gael ei darganfod.
"Ar ôl gweithio allan be' oedd wedi digwydd wnaethon ni gyhoeddi'r darganfyddiad ac ychydig o fisoedd wedyn ges i alwad ffôn gan y Guinness Book of Records - dim rhywbeth oeddwn i'n disgwyl," meddai.
"Pan mae'r llyfr yn dod allan bob blwyddyn dwi'n mynd i'r rhan am y gofod i weld os ydi o dal yno. Mae un arall hirach wedi ei ddarganfod yn weddol ddiweddar ond fi wnaeth ddarganfod hwnnw hefyd felly mae'n iawn!"

Cofnod o ddarganfyddiad yr Athro Geraint Jones a'i dîm yn llyfr Guinness World Records 2018
Bron i ugain mlynedd yn ôl bu Geraint yn gweithio am ddwy flynedd i NASA yng Nghaliffornia, cyn symud i'r Almaen yn 2005.
Roedd yn byw ym mhentref bychan Wachenhausen - dipyn o newid o Los Angeles ac yn astudio'r blaned Sadwrn a'i lleuadau yn Athrofa Max Planck.
Geraintjones - yr asteroid
Ers 2007 mae o a'i wraig Camilla, sy'n Almaenes, a'u tri o blant yn byw 'nôl ym Mhrydain a Geraint yn gweithio gyda Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yr UCL.
Mae'n arwain prosiect arloesol Comet Interceptor yr Asiantaeth Gofod Ewropeaidd, sy'n gobeithio archwilio comedau sy'n dod i gysawd yr Haul am y tro cyntaf.
A llynedd, fel cydnabyddiaeth am ei waith dros y blynyddoedd, fe gafodd deyrnged go arbennig - asteroid wedi ei enwi ar ei ôl.

Lleoliad yr asteroid Geraintjones ar ddydd Sul, 16 Ionawr 2022 - 655 miliwn km, neu 406 miliwn o filltiroedd, oddi wrth yr Athro Geraint Jones a gweddill poblogaeth Y Ddaear
"Syrpreis pleserus iawn," meddai. "Geraintjones ydi enw'r asteroid - un gair, chewch chi ddim bwlch yn yr enw. Dwi ddim wedi gweld llun hyd yn oed o'r asteroid hyd yma ond mae'n mesur rhyw 15 milltir ar draws ac mae'n ddiogel iawn, iawn - mae'n bell, bell iawn i ffwrdd a ddaw o byth yn agos at y ddaear.
"Mae o rhwng llwybr y blaned Mawrth a'r blaned Iau ac yn mynd rownd yr haul unwaith bob saith mlynedd - felly dwi'n gobeithio cael llun ohoni rywdro i'w fframio."
Gwrandewch ar yr Athro Geraint Jones ar Beti a'i Phobol ar ddydd Sul 16 Ionawr am 1300, ar nos Iau 20 Ionawr am 2100, ac ar BBC Sounds.