Achos gwrthdrawiad a laddodd athrawes ifanc yn 'aneglur'

  • Cyhoeddwyd
Beca Mai RichardsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Beca Mai Richards yn yr ysbyty chwe diwrnod wedi'r gwrthdrawiad

GanDafydd Morgan
Newyddion BBC Cymru

Clywodd cwest bod athrawes ifanc o Sir Gaerfyrddin wedi marw ar ôl colli rheolaeth o'i char cyn taro lori sment yn Sir Benfro.

Yn y gwrandawiad yn Hwlffordd clywyd bod Beca Mai Richards, oedd yn 23 oed, yn teithio i gyfeiriad y gogledd ar yr A478 rhwng Arberth a Phenblewin ddydd Gwener, 20 Awst 2021 pan darodd ei char Vauxhall Corsa y lori.

Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle bu farw chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Fe ddywedodd David Stacey, ymchwilydd gwrthdrawiadau fforensig Heddlu Dyfed-Powys, wrth y cwest bod Ms Richards wedi colli rheolaeth o'i cherbyd ar ran o'r ffordd oedd yn gwyro i'r dde.

Wrth iddi droi'r gornel, fe groesodd y car ganol y ffordd ac i lwybr y lori oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Roedd y gwrthdrawiad yn un "grymus", yn ôl Mr Stacey, ac fe fyddai wedi bod yn amhosib i Ms Richards adennill rheolaeth o'i char ac i yrrwr y lori osgoi'r Corsa.

Clywodd y gwrandawiad bod amodau'r ffordd a'r tywydd yn dda, a bod dim tystiolaeth o or-yrru, defnydd o gyffuriau, alcohol neu ffôn symudol nac argyfwng iechyd.

Dyw hi ddim yn glir felly, medd Mr Stacey, sut y collodd Ms Richards reolaeth o'i cherbyd.

Mewn datganiad meddygol a ddarllenwyd yn y cwest nodwyd mai anaf trawmatig i'r ymennydd a damwain ffordd oedd achosion marwolaeth Ms Richards.

Fe gofnododd Uwch Grwner Dros Dro Siroedd Caerfyrddin a Phenfro, Paul Bennett, fod Ms Richards wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad traffig ac fe diolchodd i'w theulu am fod yn bresennol yn y cwest.

Straeon perthnasol