Robot yn ymuno â thîm llawfeddygol Ysbyty Gwynedd
Mae disgwyl i'r claf cyntaf gael llawdriniaeth yng Nghymru drwy gymorth robot ym mis Mehefin.
Fe fydd technoleg newydd yn cael ei chyflwyno yn Ysbyty Gwynedd fydd yn caniatáu i lawfeddygon reoli breichiau robot yn ystod rhai llawdriniaethau canser.
Bydd y dechnoleg yn eu cynorthwyo i gynnal llawdriniaethau llai mewnwthiol ac yn fwy manwl, medd meddygon ymgynghorol.
Y bwriad yw i'r claf cyntaf gael ei drin ym Mangor, gyda llawdriniaethau tebyg yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd yn fuan wedi hynny.
Bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'r Llywodraeth yn gwario dros £17 miliwn ar y dechnoleg dros y degawd nesaf.