Mudiad GwyrddNi yn un o'r mentrau sy'n ceisio am newid

Yn y prosiect fwyaf o'i fath hyd yma yng Nghymru mae cyfres o gynulliadau cymunedol ar newid hinsawdd yn cael eu sefydlu yng Ngwynedd.

Y nod yw dod â phobl ynghyd i benderfynu ar ffyrdd o symud tuag at ddyfodol gwyrdd yn lleol.

Mae gan y cyhoedd tan 4 Ebrill i wirfoddoli ac yna bydd 50 o bobl yn cael eu dewis ym mhob ardal i gymryd rhan.

Yn ogystal â chynulliad Bro Ffestiniog, bydd cyfle gan bobl Pen Llŷn, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Dyffryn Peris gymryd rhan hefyd.