Perchennog 'ddim yn siwr' am newid rheolau mygydau siopau

Ni fydd yn rhaid i bobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb yn ôl y gyfraith mewn siopau, bysiau a threnau o ddydd Llun ymlaen - ond bydd angen eu gwisgo mewn ysbytai a chartrefi gofal o hyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chael gwared ar ei holl gyfreithiau Covid mewn ymateb i gyfraddau cynyddol o achosion.

Dywedodd Lowri Jones o Siop Wyn yng Nghonwy y byddai'r newid yn gwneud pethau'n haws yn y siop, ond ei bod yn mynd i gadw rhai mesurau fel sgriniau am y tro.