
Dim ond 54 munud oedd angen ar y Stormers i ennill y pwynt bonws ar ôl sgorio eu pedwerydd cais.
Un cais gafodd y Gweilch yn eiliadau olaf y gêm pan groesodd Max Nagy'r llinell. Ond erbyn hynny roedd dau o chwaraewyr y Stormers yn y gell gosb.
Yr wytthnos diwetha fe gollodd y Cymry o 45-1 yn erbyn y Lions, un arall o dimau De Affrica.
Er mai'r Gweilch sgoriodd gyntaf gyda chic gosb gan Gareth Anscombe, buan y daeth y storm.
Fe groesodd y mewnwr Paul de Wet ar ôl i'r maswr Manie Libbock ddawnsio trwy'r amddiffyn ac yna fe sgoriodd y clo Adre Smith wedi cyd chwarae da rhwng y blaenwyr a'r olwyr.
Er bod Anscombe wedi ychwanegu triphwynt arall at gyfanswm yr ymwelwyr yn fuan wedyn roedd y Stormers yn rheoli'r gêm yn gelfydd.
Yr asgellwr Leolin Zas oedd y nesaf i sgorio cais ar ôl symud y cefnwr Dan Evans allan o'r ffordd yn ddi drafferth.
I ychwanegu at ei ddau drosiad roedd Libbok yn llwyddiannus gdya chic gosb i'w gwneud hi'n 22-6 cyn yr egwyl.
Cyn yr awr fe sgoriodd Zas ei ail gais ond daeth ei bnawn disglair i ben pan gafodd gerdyn melyn. Naw munud cyn diwedd y gêm fe ymunodd Libbok i gadw cwmni iddo fe am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol.
Arwahan i'r un cais cysur fe fethodd y Gweilch a manteisio ar absenoldeb y ddau.