
Paul ac Adrian yn y 1990au
Mae Paul ac Adrian Gregory yn dathlu hanner canrif o gynnig adloniant ar lwyfannau Cymru a thu hwnt dan eu henw perfformio, Y Brodyr Gregory.
Y ddau frawd o Rydaman yw un o ddeuawdau enwocaf Cymru fyth ers cychwyn eu taith ar lwyfannau clybiau yng ngogledd Lloegr, cyn symud ymlaen i berfformio yn Gymraeg.
Theatr y Glowyr
I nodi'r pen-blwydd ar Mai 5, daeth yr actorion Phyl Harries a Ieuan Rhys â'r ddau frawd yn ôl i lwyfan sy'n agos iawn at eu calonau, sef Theatr y Glowyr, Rhydaman.
Daeth dychwelyd i lwyfan fu'n rhan mor bwysig o'u magwraeth yn Rhydaman ag atgofion melys yn ôl i'r ddau. Eglura Paul: "Oedd cyngherddau yn cael eu cynnal yna a wy'n cofio Peter, un o'r bois roc a rôl yr ardal, yn dod i mewn i'r neuadd o'r ochr ar motobeic. Dwi'n cofio'r mŵg, oedd rhaid agor y dryse, oedd pawb yn tagu!"

Tu mewn i Theatr y Glowyr, Rhydaman yn 2018
Dyddiau roc a rôl oedd hi i Adrian hefyd wrth iddo yntau gofio'r theatr fel man delfrydol am ddêt cyntaf 'nôl yn yr 1960au.
Meddai: "Beth i fi'n cofio, dechreues i garu, ro'n i'n mynd â hi i weld ffilms achos sinema oedd e yr amser 'ny. Aethon ni i weld ffilm cynta'r Beatles, Help! Oedd angen help arna i fyd!
Dylanwad eu tad, Gordon Gregory
Roedd creu deuawd cerddorol yn rhywbeth ddigwyddodd yn naturiol i'r ddau frawd, a'r ddau wedi etifeddu talent gerddorol eu tad, Gordon Gregory.
Eglura'r ddau: "Oedd gweithio fel deuawd yn no brainer am y rheswm oedd dad yn canu, oedd llais arbennig gyda dad. Matt Monro, 'na beth oedd Dad yn canu. Dysgodd e gwpl o ganeuon a harmonis i ni.

Paul ac Adrian Gregory... tybed a ydy Adrian wastad ar y dde?
Ychwanega Adrian: "Beth oedd yn drueni, pan oedd Dad yn ifanc, gafodd e'r cyfle i fynd i weithio 'da'r BBC, i ganu 'da'r BBC. Ar y pryd yr adeg 'na oedd ei rieni fe'n dweud 'Paid â bod mor dwp. 'S'dim dyfodol mewn canu,' so a'th e i weithio mewn garej, syn drueni achos fi'n credu, galle fe fod wedi mynd yn bell.
"Ond oedd e dal i ganu ar benwythnosau, a'r concert parties fel o'n nhw blynedde maith yn ôl, a'r artisitiaid yn teithio o gwmpas clwbie lleol yn canu. Oedd Dad yn canu lan i 86."
Clybiau gogledd Lloegr
Wrth ddatblygu eu steil unigryw eu hunain fel Y Brodyr Gregory, roedd deuawdau cerddorol y swinging sixties fel The Everly Brothers, Simon and Garfunkel, The Walker Brothers yn eu hysbrydoli.
Bu'r brodyr yn teithio gogledd Lloegr o glwb i glwb a buont yn treulio tymor cerddorol yr haf yn Blackpool gan ddod yn andabyddus i gynulleidfaoedd yn Lloegr, ond yn ddiarth i'r sîn yng Nghymru.

Roedd Y Brodyr Gregory yn boblogaidd iawn yng nghlybiau Blackpool yn eu dyddiau cynnar
Eglura Paul: "Nagon ni wedi cynnal unrhyw fath o ddiwrnod neu sioe cysylltiedig â'r eisteddfodau, nag oedd pobl yn 'nabod y Brodyr Gregory nes bod ni yn cyrraedd y teledu, heblaw am y clybiau yn Saesneg.
"Yn Gymraeg bydde y mwyafrif o artistiaid sy'n canu'n Gymraeg wedi mynd drwy Eisteddfod yr Urdd, wedyn mynd 'mlaen i'r Genedlaethol a 'neud sioeau yng Nghymru drwy'r Gymraeg.
"O'n i yn 'neud tymhorau haf yn Blackpool so nagon ni yn rhan o'r sîn yng Nghymru."
Teledu Cymraeg: HTV
Tu hwnt i ennill cystadleueath cân bop eisteddfod ysgol Rhydaman yn 1968 yn Saesneg bu'r Brodyr Gregory yn cyfansoddi a pherfformio. Daeth tro ar fyd wrth i gwmni teledu HTV gynyddu eu darpariaeth o raglenni Cymraeg a chynnig llwyfan newydd i'r bois o Rydaman.
Am y cyfnod cyffrous hwnnw, meddai Adrian: "Oedd rhaid i ni ailddysgu'r iaith a deud y gwir. Oedd e'n anodd ar y dechre, yn enwedig o'r amser oedden ni'n penderfynu nagyn ni yn mynd i deithio i Loegr ragor, bo' ni'n aros gartre.
"O'r amser penderfynon ni bo' ni ddim yn mynd i deithio a chanu yn Gymraeg, wnaethon ni werthu ffrwythau am ryw bedwar mis.
"Aethon ni lan i Gaerdydd i ocsiwn a mi brynon ni fan bach a aethon ni i'r Bessemer Market a mi brynon ni ffrwythau.
"Athon ni â fe'n 'nol wedyn i Rydaman, cnoco dryse pawb a gweud, 'Reit ni'n dechre gwerthu ffrwythe o'r dydd Llun. Os oes diddordeb gyda chi, allwn ni alw 'dach chi!' Dyna'r unig job cywir iawn i fi 'di cael!"
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth edrych yn ôl ar eu cyfnod yn treulio nosweithiau yn dod ag adloniant i ystafelloedd byw Cymru a rhannu'r llwyfan gyda mawrion adloniant Cymraeg, mae'r teimlad yn chwerw-felys.
Meddai Paul: "Yn yr 80au oedden ni yn stiwdios HTV bron bob mis gyda pobl fel Tony ac Aloma, Caryl Parry-Jones, Ros a Myrddin a Dewi Pws. Oedd y stiwdio yn brysur, oedd awyrgylch arbennig ond beth oedd yn drueni wrth fod amser yn mynd yn ei flaen, o'ch chi'n gweld bod pethau'n dechrau arafu, llai o bobl, nag oedd y stiwidos ar gael.
"Oedd e'n drueni achos roedd e'n gyfnod arbennig chi'n gwybod, yn enwedig achos o'n i mwy neu lai yn dechre yn y busnes recordio a mynd i teledu, oedd hi'n fraint i fod yna."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Hefyd o ddiddordeb: