Plismones yn cael clod am ei dewrder yng ngogledd Cymru
Mae plismones wnaeth rhoi stop ar ymosodiad yng Nghaernarfon pan nad oedd hi ar ddyletswydd wedi cael ei chymeradwyo am ei dewrder.
Fe aeth PC Clare Larkey-Jones i amddiffyn dyn pan oedd grŵp o ddynion yn ymosod arno ar y Maes ym mis Ionawr 2022.
Mae hi nawr wedi ei henwebu am wobr genedlaethol sy'n dathlu dewrder swyddogion.
Dywedodd ei bod am "sefyll i fyny yn erbyn pobl sy'n cambihafio."