Cyngres Europa: Gobeithion timau Cymru dal yn fyw

  • Cyhoeddwyd
Cyngres EuropaFfynhonnell y llun, Alex Pantling
Disgrifiad o’r llun,

Y Drenewydd a'r Bala yw cynrychiolwyr Cymru yng Nghyngres Europa y tymor hwn

Bydd dau glwb o Gymru yn wynebu eu hail gymal yn Ewrop gyda gôl o anfantais yn dilyn gemau nos Iau.

Roedd y Bala yn croesawu Sligo Rovers o'r Iwerddon tra roedd y Drenewydd yn gwneud y daith ogleddol i Ynysoedd Ffaröe i wynebu Havnar Bóltfelag Tórshavn.

Roedd y Bala yn gorfod chwarae eu gêm gartref yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, gan nad yw Maes Tegid yn bodloni gofynion UEFA ar gyfer gemau Ewropeaidd.

Ond daeth y cychwyn perffaith i dîm Colin Caton yn eu cartref dros dro wedi pum munud yn unig, gydag ergyd bwerus Lassana Mendes yn ddigon i guro McGinty yng ngôl yr ymwelwyr.

Lassana MendesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Lassana Mendes y Bala ar y blaen wedi ond pum munud

Er hynny, gweithiodd Sligo eu hunain i mewn i'r gêm gan daro'r postyn wedi 25 munud.

Ni lwyddodd hynny i sbarduno'r Bala, serch hynny, wrth i'r tîm o ogledd orllewin Iwerddon ddod yn gyfartal ddau funud yn ddiweddarach diolch i Aidan Keena, a fanteisiodd ar ddiffyg dealltwriaeth ymysg amddiffyn y Bala wrth rwydo'n gelfydd.

Ar gychwyn yr ail hanner daeth Sligo o fewn modfeddi i fynd ar y blaen, ond gafodd Alex Ramsay ddigon o law ar yr ergyd i'w chadw allan.

Ond brin funud yn ddiweddarach fe ddaeth ail y Gwyddelod wrth i ergyd Max Mata wasgu fewn i gornel isa'r rhwyd yn dilyn cic gornel.

Max MataFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Max Mata yn dathlu ail gôl Sligo

Roedd hyn i fawr foddhad y dros 500 o gefnogwyr oedd wedi teithio dros Fôr Iwerddon, gyda Sligo yn fodlon dychwelyd adref gydag un gôl o fantais wrth i'r Bala ddechrau blino yn erbyn y tîm proffesiynol llawn amser.

Ond daeth gobaith o'r newydd gyda phrin 10 munud yn weddill wedi i amddiffynnwr rhyngwladol Seland Newydd, Nando Pijnaker, weld y cerdyn coch am lorio Dave Edwards pan roedd drwodd ar y gôl.

Ofer fu ymdrechion y Bala, serch hynny, wrth i Sligo sicrhau mantais werthfawr cyn i'r ddau wynebu'i gilydd unwaith eto nos Iau nesaf.

Taith ogleddol y Drenewydd

Tra allan yn Ynysoedd Ffaröe roedd hi'n noson anodd i'r Drenewydd wrth iddynt geisio gwrthsefyll pwysau sylweddol Havnar Bóltfelag.

Dave JonesFfynhonnell y llun, James Williamson - AMA
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Dave Jones i gadw llechen lân am awr ond dychwelyd adref gyda gôl o anfantais oedd tynged y Drenewydd

Fe ddaeth tîm Chris Hughes o dan bwysau sylweddol yn Torshavn ond llwyddodd Dave Jones i gadw llechen lân am awr.

Ond daeth unig gôl y gêm i'r tîm cartref gyda 66 munud ar y cloc wrth i'r amddiffynnwr rhyngwladol, Bartal Wardum, benio o gic gornel.

Sbardunodd hyn y Drenewydd gan greu sawl hanner cyfle wrth i'r gêm ddod i derfyn, heb lwyddo i ddarganfod gefn y rhwyd.

Ond fel y Bala, mae her yn wynebu'r Drenewydd mewn wythnos os am wneud argraff yng nghystadlaethau Ewrop eleni.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol