
Bu farw Matthew Thomas, 47, o'i anafiadau fore Sadwrn
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn ymosodiad ger clwb nos yng Nghastell-nedd.
Bu farw Matthew Thomas, 47 o Gastell-nedd, ar ôl ymosodiad arno ger clwb nos The Arch ar Stryd Commercial tua 00:50 fore Gwener.
Aed â Mr Thomas i'r ysbyty ond bu farw o'i anafiadau fore Sadwrn.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cyhuddo dyn 34 oed o Hampshire o lofruddiaeth.
Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2022
