Sêl bendith yr Archdderwydd i gylch cerrig newydd Tregaron

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cylch cerrig
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor y dref a gasglodd y cerrig o ffermydd yr ardal

GanCraig Duggan
Gohebydd BBC Cymru

Mae seremoni wedi'i chynnal yn Nhregaron brynhawn Sadwrn ble gwnaeth yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd roi sêl bendith i gylch newydd o gerrig i nodi ymweliad yr Eisteddfod.

Cyngor y dref a gasglodd y cerrig o ffermydd yr ardal fel ffordd o goffau ymweliad cyntaf y brifwyl â Thregaron.

Cafodd plac ei ddadorchuddio ar un o'r cerrig gan y darlledwr Wyn Gruffydd - mab y prifardd a'r cyn-archdderwydd o Geredigion W J Gruffydd.

Roedd apêl wedi'i wneud ddechrau'r haf i ffermwyr y sir roi cerrig mawr er mwyn creu'r gofeb i nodi ymweliad yr Eisteddfod.

Roedd yr apêl honno'n llwyddiannus, ac wedi i'r cerrig gael eu gosod ddechrau Gorffennaf, maen nhw bellach wedi derbyn sêl bendith yr Archdderwydd hefyd.

Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd Myrddin ap Dafydd y cylch cerrig fel "cofnod teilwng iawn" o ymweliad y brifwyl

Dywedodd Myrddin ap Dafydd yn y seremoni ddydd Sadwrn: "Mae pob Eisteddfod yn creu atgofion, a beth mae'r cylch yma yn gwneud yw trysori'r atgofion am yr Eisteddfod, ond mae 'na fwy na hynny hefyd.

"Roedd rhywbeth emosiynol iawn pan oedd Owain o Dregaron, sy' wedi bod yn gyfrifol am gasglu'r cerrig yma, yn enwi pob teulu, enwi pob ffarm, felly mae 'na dalp o hanes yr ardal yma hefyd, ac mae dod â nhw i gyd at ei gilydd yn drysorfa.

"Maen nhw'n feini sydd wedi cael eu dewis yn ofalus - nid rhyw gerrig o ffosydd ydyn nhw, maen nhw wedi cael eu trin, mae 'na waith wedi bod ar y cerrig yma am ganrifoedd efallai.

"Mae hynny'n cynrychioli rhywbeth pwysig iawn, ac wedyn bod yr Eisteddfod a'r cyfan sy'n digwydd yma - prifddinas Cymru am yr wythnos, wrth gwrs - mae hyn yn gofnod teilwng iawn."

Wyn Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r brwdfrydedd yn amlwg yn yr ardal," meddai Wyn Gruffydd

Ychwanegodd Wyn Gruffydd: "Mae'r digwyddiad yma yn holl bwysig ac rwy'n canmol y pwyllgor sy' tu ôl i'r fenter.

"Mae 'na gymeriad a stori tu ôl i bob un o'r cerrig yma, ac mi fyddan nhw yma yn atgof parhaol o'r ffaith bod yr Eisteddfod wedi dod i Dregaron yn y diwedd.

"Mae'r brwdfrydedd yn amlwg yn yr ardal, ac mae'r ffaith bod nhw wedi cael sêl bendith yr Archdderwydd yn ychwanegu at yr achlysur."

Pynciau cysylltiedig