Robat Idris: Angen mwy na hawliau iaith penodol
Mae'n bwysig ystyried y frwydr dros yr iaith mewn mwy nag "un seilo" yn unig, yn ôl cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, gan ddweud fod angen mwy na hawliau iaith penodol i sicrhau ei dyfodol.
Dywedodd Robat Idris wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru ei fod yn hanfodol fod pobl hefyd yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gymunedau Cymraeg.
Cafodd y cadeirydd newydd ei ethol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas ddydd Sadwrn, ac mae'n olynu Mabli Siriol Jones.