Ynys Môn: Trefniadau gŵyl Oktoberfest yn 'siop siafins'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd y ciw i gyrraedd y bar gyn hired â 90 munud. Fideo: Katie Cannell

Mae trefnwyr gŵyl gwrw ar Ynys Môn wedi derbyn llu o gwynion ynglŷn â threfniadaeth digwyddiad dros y penwythnos.

Roedd gŵyl Oktoberfest wedi ennyn ymateb ffyrnig ar wefannau cymdeithasol, gydag un wnaeth fynychu'r noson yn disgrifio'r digwyddiad "gwarthus" fel "siop siafins".

Mewn datganiad roedd cydnabyddiaeth gan drefnwyr Oktoberfest fod problemau wedi bod gyda'r digwyddiad ar Faes y Sioe ym Mona, gan gynnwys oedi sylweddol i gyrraedd y bar.

Ond mae rhai eisoes yn galw am ad-daliad, gydag adroddiadau fod llawer wedi gadael yn gynnar nos Sadwrn oherwydd y ciwio di-baid.

'Siomedig dros ben'

Dywedodd rhai ar dudalen Facebook bod trefniadaeth y noson yn "gwbl warthus" ac yn "flerwch llwyr", gyda grŵp wedi denu dros 300 a fynychodd ac sy'n credu y dylen nhw dderbyn ad-daliad.

Ciw i'r barFfynhonnell y llun, Dan Jackson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gŵyl Oktoberfest wedi ennyn ymateb ffyrnig ar wefannau cymdeithasol

Un o'r rheiny wnaeth adael yn gynnar oedd Robin Williams, sy'n byw ym Mhorthaethwy.

Yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd Mr Williams, sydd hefyd yn gynghorydd sir ar yr ynys, fod eu grŵp wedi ciwio am awr a chwarter i gael i mewn i'r adeilad.

Ond er talu am wasanaeth gweini wrth y bwrdd, dywedodd nad oedd gwasanaeth o'r fath ar gael, a bod y ciw i gyrraedd y bar tua awr a hanner o hyd.

"'Oedd na lawer iawn o bobl wedi mynd i lot fawr o drafferth er mwyn cael gwisg ffansi a'r math yna o beth," meddai.

"Wedi edrych ymlaen at y digwyddiad, mi drodd allan i fod yn un siomedig dros ben ar ddiwedd y dydd.

"Naethon ni gyrraedd yna ychydig ar ôl 16:30, mi fuon ni'n sefyll wedyn mewn ciw am awr a chwarter i gael i mewn.

Bwrdd gwagFfynhonnell y llun, Katie Cannell
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl rhai oedd wedi mynychu'r noson, roedd llawer wedi penderfynu gadael yn gynnar oherwydd y ciwio

"Erbyn i ni gael i mewn mi oeddan ni fod i gael gwasanaeth gweini wrth ymyl y bwrdd - 'oeddan ni wedi talu yn ychwanegol ar gyfer hynny - ond welson ni neb yn gweini ac erbyn hynny mi oedd na giw sylweddol i gael at y bar lle 'oedd 'na mond rhyw hanner dwsin o bobl yn gweithio tu ôl iddo fo.

"Dwi'm yn siŵr iawn am y niferoedd, dwi 'di clywed gwahanol ffigyrau - dwi di clywed ffigwr o 3,000 a 5,000 - ond yn sicr doedd bar 'efo hanner dwsin neu wyth o bobl yn gweithio tu ôl iddo yn amlwg ddim am allu copio hefo'r fath niferoedd."

'Dim darpariaeth ddigonol'

Er nad yn beio perchnogion y safle, ond yn hytrach trefnwyr y noson, barn Mr Williams yw y dylid ad-dalu y rheiny oedd wedi prynu tocyn.

"Dwi'n gweld dim bai o gwbl ar Gymdeithas Amaethyddol Môn, dim y nhw oedd yn ei drefnu gan mai llogi'r lle allan i gwmni allanol oeddan nhw, ond yn amlwg doedd y cwmni yma heb wneud eu darpariaethau yn ddigonol," meddai.

"Mi oedd gena'i rhywbeth bach yng nghefn fy meddwl nos Wener pan welais ar Facebook eu bod nhw'n hysbysebu am staff....

Pobl yn ciwioFfynhonnell y llun, Twitter @Bailey83m
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwynion wedi bod am drefniadaeth y digwyddiad ar Gae Sioe Mona, gan gynnwys y ciwio am fynediad ac yna i gyrraedd y bar

"Pan 'da chi'n hysbysebu am staff munud dwytha' fela' mae o'n creu rhyw argraff fod pethau ddim cweit yn iawn."

"Yn anffodus felly wnaeth hi droi allan... mi fuom yn trio cael ein gweini am awr ac ar ôl awr mi wnaethom benderfynu troi ar ein sodlau ac mynd o'na.

"Erbyn hynny oedd y ciw yr holl ffordd yn ôl drwy'r sied, reit at y drws. Mi oedd ciw o awr a hanner i gael at y bar erbyn y pwynt yna."

Ychwanegodd fod y grŵp wedi talu oddeutu £360 am fwrdd i ddwsin, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd.

"Doedd na ddim gwasanaeth o'r fath yno yn anffodus a fyswn yn dweud fod siop siafins yn garedig iawn i ddisgrifio'r fath lanast a welson ni brynhawn Sadwrn.

Y ciw a 5 o'r glochFfynhonnell y llun, Robin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Y ciw i gael mynediad i'r safle am 17:00 brynhawn Sadwrn

"Dwi'n meddwl dyla'r trefnwyr roi eu dwylo i fyny a dweud 'Da ni wedi gwneud llanast o hyn', ac mi ddylem feddwl am roi arian yn ôl i bobl.

"Mae'r peth yn gwbl warthus i fod yn onest."

'Materion technegol'

Mewn datganiad gan y trefnwyr roedd cydnabyddiaeth bod heriau mawr wedi bod nos Sadwrn.

Dywedodd Oktoberfest UK bod lle i ddysgu gwersi ond bod yr awyrgylch yn "anhygoel".

"O'r adborth, deallwn mai'r gwasanaeth wrth y bar oedd prif rwystredigaeth cwsmeriaid," dywedodd y cwmni.

"Roedd nifer o faterion technegol gyda'r bar ar ddechrau'r digwyddiad a oedd yn golygu na allai darparwr y bar gael diodydd allan yn ddigon cyflym i ddechrau, ac o ganlyniad dechreuodd ciw mawr ffurfio a gymerodd dros awr i wasanaethu'n llwyr ac ailddechrau'r gwasanaeth arferol.

"Mae gweithio gyda chyflenwyr newydd mewn lleoliad newydd bob amser yn dod â'i heriau ac er ein bod yn ddiolchgar am y gwaith caled a wneir gan bawb ar y bar, rydym wedi dod â'n perthynas â nhw i ben ar unwaith.

"Fel tîm daethom i gyd at ein gilydd i helpu a gweithio i'r eithaf nes bod y ciw wedi'i wasanaethu'n llwyr.

"Unwaith y bu'r ciw ddistewi roedd yr awyrgylch yn y digwyddiad yn anhygoel. Diolchwn i'r rhai a arhosodd tan y diwedd i fwynhau'r profiad llawn."

Straeon perthnasol