Dwy wobr i Chris Roberts y 'cyflwynydd gorau' yn BAFTA Cymru
Cafodd Seremoni BAFTA Cymru ei chynnal, wyneb yn wyneb, unwaith eto am y tro cyntaf ers y pandemig.
Ymhlith yr enillwyr yr oedd Chris Roberts. Cafodd y wobr am y cyflwynydd gorau a rhaglen Bwyd Epic Chris enillodd y wobr am y rhaglen adloniant orau.
Roedd 'na wobrau hefyd i'r actorion Owen Teale ac Emilia Jones; Ysgol Ni: Y Moelwyn enillodd y wobr am y gyfres ffeithiol orau; y wobr am y rhaglen ddogfen orau i Y Parchedig Emyr Ddrwg.
Grav a enillodd y wobr am y ffilm nodwedd orau a Hei Hanes! oedd enillydd y rhaglen blant orau.
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd oedd lleoliad y seremoni nos Sul gyda'r Gymraes Alex Jones yn cyflwyno.