Hywel Gwynfryn yn cofio rhaglen Nadolig gyntaf S4C yn 1982

Beth oedd ar S4C dros Nadolig cyntaf y sianel, 40 mlynedd yn ôl?

Ym mis Tachwedd 1982 y cafodd S4C ei lansio, a mis yn ddiweddarach roedd y sianel newydd yn paratoi i ddarlledu ei hamserlen Nadolig gyntaf un.

Y brif raglen oedd yn diddanu'r genedl ar noson Nadolig 1982 oedd Rhaglen Hywel Gwynfryn.

Cafodd Hywel ei hatgoffa ohoni gan griw Cymru Fyw sydd wedi bod yn tyrchu yn yr archif gan rannu ei atgofion wrth edrych yn ôl.