Dynladdiad Dafydd Thomas yn 'ergyd i'r gymuned'
"Cymeriad arbennig" a "dyn wnaeth gyfraniad mawr i'w gymdeithas" yw sut y gwnaeth Arweinydd Cyngor Gwynedd ddisgrifio Dafydd Thomas, gafodd ei ladd gan ei fab.
Bu farw Mr Thomas, 65, ar ôl i'w fab, Tony Thomas ymosod arno ger ei gartref ym Minffordd, Gwynedd fis Mawrth 2021.
Roedd Dafydd Thomas yn ddyn busnes llwyddiannus ac yn rhedeg cwmni Gwynedd Environmental Waste Service.
Fe ddaeth y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i gasgliad fod Tony Thomas yn euog o ddynladdiad ei dad ar sail cyfrifoldeb lleiedig.
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor fod gan Tony Thomas hanes o broblemau iechyd meddwl ers 1997, a'i fod wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol (bipolar).
Dywedodd Dyfrig Siencyn fod "ei golli [Dafydd Thomas] yn y modd yma yn ddychryn ac yn ergyd i'r gymuned".